Mae 39 o bobol wedi cael eu harestio yn Berlin yn dilyn gorymdaith gan neo-Natsïaid i nodi 30 o flynyddoedd ers marwolaeth Rudolf Hess.

Roedd mwy na 500 o bobol wedi ceisio ymuno â’r orymdaith i safle carchar Spandau lle bu farw’r swyddog Natsïaidd yn 1987.

Ond cawson nhw eu hatal gan grwpiau asgell chwith a thrigolion lleol.

Roedd 35 o’r bobol a gafodd eu harestio yn neo-Natsïaid, meddai’r heddlu, a phedwar ohonyn nhw’n eu gwrthwynebu.

Mae 12 o’r neo-Natsïaid yn cael eu hamau o arddangos symbolau sydd wedi’u gwahardd.

Mae eraill yn cael eu hamau o darfu ar yr heddwch, ymosod, gwrthod cael eu harestio, troseddau cyffuriau a thorri’r gyfraith ynghylch ymgynnull yn gyhoeddus.