Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal yn ninas Barcelona heddiw i gofio’r 14 o bobol a gafodd eu lladd mewn ymosodiad brawychol yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r heddlu’n dal i chwilio am yrrwr y fan oedd wedi gyrru i mewn i ganol torf yn La Rambla, gan ladd 13 o bobol.

Bu farw un person mewn ail ymosodiad yn Cambrils.

Yn ôl yr awdurdodau, maen nhw wedi trechu’r gell o jihadwyr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.

Ond fe lwyddodd gyrrwr y fan i ffoi, ac mae imam yn dal ar goll o dref Ripoll.

Mae’r gwasanaeth heddiw’n cael ei gynnal yn adeilad Sagrada Familia, a gafodd ei ddylunio gan Gaudi, ac a oedd yn darged gwreiddiol y brawychwyr, yn ôl rhai adroddiadau.

Roedd prif weinidog Catalunya, Carles Puigdemont ymhlith y rhai fu’n talu teyrnged i’r meirw ddydd Sadwrn.

Bydd munud o dawelwch cyn gêm bêl-droed Barcelona yn erbyn Betis yn y Camp Nou yn ddiweddarach heddiw.

Y rhai dan amheuaeth

Mae lle i gredu mai’r ceisiwr lloches 22 oed o Foroco, Younes Abouyaaqoub yw’r gyrrwr oedd wedi llwyddo i ffoi.

Ac mae’r heddlu’n awyddus i ddod o hyd i imam mosg yn Ripoll, sydd wrth wraidd yr ymosodiadau, yn ôl yr awdurdodau.

Cafodd cartref yr imam, Abdelbaki Es Satty ei archwilio gan yr heddlu ddoe.

Dydy e ddim wedi cael ei weld ers mis Mehefin, ar ôl gadael y mosg yn ddi-rybudd, gan ddweud ei fod e’n awyddus i ddychwelyd i Foroco.

Ond mae lle i gredu bellach y gallai fod wedi cael ei ladd mewn ffrwydrad gan yr heddlu yn dilyn yr ymosodiadau.

Yn ôl heddlu Catalunya, mae’n bosib fod ei gartref yn cael ei ddefnyddio i greu bomiau ar gyfer ymosodiad llawer mwy o faint. Mae gweddillion tri o bobol wedi cael eu darganfod yno.

El Pais says police have found biological remains of at least three people in the house but their identities are yet to be determined.