Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn yng Nghaerdydd ar 13 Gorffennaf.

Cafodd y dyn 37 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gydag anafiadau difrifol yn dilyn yr ymosodiad am tua 3.30yb ar Stryd Theodora, Adamsdown.

Bu farw ar ddydd Sul, Gorffennaf 16. Mae teulu’r dyn yn cael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu ar hyn o bryd.

Mae dyn, 18, o Dremorfa wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn cael ei gadw yn y ddalfa. Cafodd dyn, 45, hefyd ei arestio ond mae bellach wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus ar strydoedd Stryd Pearl, Stryd Theodora neu ardal Broadway y ddinas yn ystod oriau mân fore Iau, 13 Gorffennaf i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio  101 gan ddyfynnu cyfeirnod *271618 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.