Cerys Matthews (gingerblokey CCA 3.0)
Mae’r cerddor Cerys Matthews wedi dweud bod trychineb tân Tŵr Grenfell wedi ei hysgogi i ganfasio dros y blaid Lafur.

Mewn cyfweliad â Golwg dywedodd y gantores o Gymru ei bod yn bwriadu cefnogi ymgeisydd Llafur ei ward yn etholiadau Cyngor Kensington a Chelsea ym mis Mai flwyddyn nesaf.

Yn ôl y gantores mae mi fydd hi’n cefnogi’r ymgeisydd “nid am ei bod hi’n Blaid Lafur” ond am fod  yna “mwyafrif Ceidwadol enfawr, sydd wedi arwain at Gabinet peryglus” yn ei hetholaeth.

Bu farw o leiaf 80 o bobol pan wnaeth tân ledu trwy bloc fflatiau 24 llawr Tŵr Grenfell ar Fehefin 14.

“Agorwch eich llygaid”

“Byddai unrhyw wedi cael eu cymell yn wleidyddol petaech chi’n byw lle’r ydw i, yn edrych mas trwy’r ffenestr ac yn gweld pobol yn llosgi’n fyw… Agorwch eich llygad,” meddai Cerys Matthews wrth Golwg.

“Byddwch weithgar – sgrifennwch at eich aelodau seneddol, a gofyn beth sy’n digwydd. Pwy sy’n rhedeg polisi cyhoeddus, pwy sy’n rhedeg y cabinet – ydyn nhw’n llwgr? Ydyn nhw’n ddatblygwyr eiddo? Rhaid i ni agor ein llygaid i’r holl bethau yma achos ry’n ni wedi mynd yn rhy ddifater.”

Mae mwy gan Cerys Matthews yn rhifyn yr wythnos o Golwg.