Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi pwy fydd aelodau newydd Cyngor Partneriaeth y Gymraeg – y cyngor a gafodd ei sefydlu yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 er mwyn cynnig arweiniad i weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â’r iaith.

Mae deg o bobol wedi’u penodi am dymor o dair blynedd yr un: Simon Brooks, Owen Derbyshire, Rhian Huws-Williams, Dewi Jones, Gwion Lewis, Angharad Lloyd-Williams, Rhodri Llwyd Morgan, Gwynedd Parry, Enlli Thomas, a Marian Thomas.

“Rwyf yn hyderus bod ganddynt y profiad a’r arbenigedd sydd angen i fy nghefnogi fi a fy swyddogion i weithredu tair blynedd gyntaf y strategaeth newydd,” meddai’r Gweinidog, Alun Davies.

“Rwy’n disgwyl ymlaen i gydweithio gyda nhw.”