Barry Bennell
Mae’r cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell yn wynebu 14 o gyhuddiadau ychwanegol o gamdrin bechgyn yn rhywiol.

Mae’r dyn 63 oed wedi’i gyhuddo o 55 o droseddau rhwng 1979 a 1991, ac fe fydd yn mynd gerbron llys fis nesaf.

Roedd cyn-hyfforddwr Crewe Alexandra wedi gwadu’r cyhuddiadau cychwynnol mewn gwrandawiad blaenorol.

Mae’r cyhuddiadau diweddaraf yn ymwneud â throseddau honedig yn erbyn pedwar o bobol oedd rhwng 11 a 14 oed ar y pryd, ac maen nhw’n cynnwys ymosod yn anweddus a sodomiaeth.

Y cyhuddiadau

Ymddangosodd Barry Bennell gerbron ynadon drwy gyswllt fideo heddiw i gadarnhau ei fanylion a’i fod yn deall y cyhuddiadau, sef:

–          Pedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen 11 i 14 oed

–          Pedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen 11 i 12 oed

–          Dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen 11 i 13 oed

–          Pedwar cyhuddiad o sodomiaeth ar fachgen 11 i 14 oed

Fis diwethaf, cafodd ei gyhuddo o 21 o droseddau eraill, yn ogystal â’r 20 yr oedd e’n eu hwynebu eisoes.

Bryd hynny, fe gafodd ei gyhuddo o 18 achos o ymosod yn anweddus, dau gyhuddiad o sodomiaeth ac un cyhuddiad o geisio cyflawni sodomiaeth ar bedwar bachgen 10 i 14 oed rhwng Rhagfyr 1983 a Thachwedd 1991.

Y cefndir 

Yn wreiddiol, roedd e’n wynebu 14 cyhuddiad o ymosod yn anweddus, pum cyhuddiad o sodomiaeth.

Mae’r erlynwyr yn honni bod yr holl droseddau wedi’u cyflawni “ym Mhwllheli, Criw, Swydd Derby, gogledd orllewin Cymru neu yn rhywle arall”.

Bydd yr achos yn dechrau yn Llys y Goron Lerpwl fis nesaf, ac mae Barry Bennell wedi’i gadw yn y ddalfa tan Orffennaf 17.