Fflatiau ar Ystad Chalcot, yn Camden, Llundain, (Llun: Philip Toscano/PA Wire)
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi  galw ar awdurdodau i gyflymu’r broses o gynnal profion ar ddeunydd allanol tyrrau uchel yng ngwledydd Prydain.

Daw’r galw wrth i bryderon gynyddu ymhellach ynglŷn â’r posibilrwydd bod nifer o adeiladau uchel wedi eu gorchuddio a deunydd allanol tebyg i’r hyn oedd ar floc o fflatiau Tŵr Grenfell yn Llundain.

Bu Theresa May yn cadeirio cyfarfod o Dasglu Twr Grenfell heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Theresa May bod gan yr awdurdodau’r gallu i gynnal 100 prawf bob dydd – profion sydd yn cymryd ychydig o oriau’n unig – ond nad oedden nhw’n cyrraedd y ffigwr yna ar hyn o bryd.

Hyd yn hyn mae samplau o ddeunydd allanol 60 o dyrrau uchel mewn 25 o awdurdodau lleol yn Lloegr  wedi methu profion diogelwch tân a gafodd eu cynnal wedi’r drasiedi.

Wrth i’r profion barhau mae Downing Street yn bwriadu cynnwys ysbytai ac ysgolion ymysg yr adeiladau fydd yn cael eu profi.

Yn y cyfamser mae’r cwmni gwneuthuro Arconic, sy’n cynhyrchu’r paneli Reynobond PE, a gafodd eu defnyddio ar Dŵr Grenfell, wedi atal eu gwerthiant ar gyfer adeiladau uchel.

“Gweithredu’n gyflym”

“Yn sicr mae rhai cynghorau yn gweithredu’n gyflym,” meddai’r Gweinidog Tai, Alok Sharma, ar raglen BBC Radio 4 Today. “Ond rydym eisiau gweld pob un yn ymateb yn gyflym.”

“Dylen nhw weithredu yn awr: galw ar y gwasanaeth tân i ddod draw, gwirio’r adeiladau a all fod wedi eu heffeithio ac os oes rhaid, gwagio unrhyw adeiladau sydd yn beryglus.”

Cafodd trigolion ystâd Chalcots yng ngogledd Llundain eu symud o’u cartrefi ddydd Gwener oherwydd pryderon am ddiogelwch tân a bellach mae tenantiaid yr adeilad 600 fflat yn byw mewn lletyau dros dro.

Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus i’r trychineb holi sut mae cymaint o adeiladau yn y DU wedi eu gorchuddio â deunydd anniogel.