Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae Theresa May wedi rhoi addewid i’w gwneud mor hawdd â phosib i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n byw yn y Deyrnas Unedig (DU) i ddiogelu eu hawliau yn dilyn Brexit.

O dan gynlluniau’r Llywodraeth fe fyddai ddinasyddion yr UE sydd wedi bod yn byw ym Mhrydain am bum mlynedd yn cael gwneud cais am yr hawl i aros yn y wlad ar ôl i’r DU adael yr Undeb.

Mae Theresa May hefyd wedi dweud y bydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i allu dod ag aelodau o’u teuluoedd sy’n ddibynnol arnyn nhw, i fyw gyda nhw yn y DU.

Roedd y cynllun wedi cael ymateb llugoer gan arweinwyr eraill y UE pan fu’r Prif Weinidog yn amlinellu cynnig y DU ym Mrwsel wythnos ddiwethaf, gyda Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk ei fod yn “is na’n disgwyliadau.”

Mae papur y Llywodraeth a gafodd ei gyhoeddi yn y Senedd ddydd Llun yn pwysleisio y bydd yr awdurdodau yn gwneud popeth yn eu gallu i symleiddio’r broses o wneud cais i aros yn y DU, tra’n cadw’r costau’n isel.

Dywed y papur bod y Llywodraeth yn bwriadu cadw’r hawliau presennol yn ymwneud a budd-daliadau, gofal iechyd, addysg a hawliau economaidd eraill “yn y disgwyliad y bydd yr hawliau yma yn cael eu hadlewyrchu gan aelodau eraill yr UE” ar gyfer dinasyddion Prydain sy’n byw yn yr UE.