Mae arweinydd yr SNP yn San Steffan wedi dweud mai canolbwyntio ar warchod buddiannau yr Alban y bydd ei blaid yn ystod proses Brexit.

Trwy wneud hynny, mae Ian Blackford yn cadarnhau’r sïon bod Nicola Sturgeon wedi rhoi unrhyw gynlluniau ar gyfer refferendwm annibyniaeth arall, i’r neilltu am y tro.

“Plaid annibyniaeth yr Alban ydi’r SNP o hyd,” meddai Ian Blackford, “ond mae’n mynd i roi mwy o sylw i’r blaenoriaethau sydd reit o’n blaenau ni… fel gweithio i sicrhau’r fargen orau pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.”

Fe luniodd Nicola Sturgeon amserlen ym mis Mawrth eleni, yn nodi y byddai yna ail bleidlais ar annibyniaeth rywbryd rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019. Roedd hynny er mwyn caniatau i Albanwyr – a’r mwyafrif ohonyn nhw wedi pleidleisio tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd – ddewis arall yn lle Brexit.