Protest yr EDL yn y gorffennol (Llun: PA)
“Fi fydd yr hunan-fomiwr gwyn cyntaf” oedd neges un o’r siaradwyr yn ystod gorymdaith yr English Defence League yn Llundain heddiw, wrth iddo rybuddio am ymosodiadau gan Fwslimiaid.

Roedd tua 50 o gefnogwyr y mudiad yn yr orymdaith o dafarn yn Sgwâr Trafalgar i rali ar Victoria Embankment.

Roedd rhai o’r protestwyr yn cario baneri San Siôr, tra bod eraill yn cuddio’u hwynebau ac yn llafarganu “Strydoedd pwy? Ein strydoedd ni”.

Protestio yn erbyn y brotest

Ymgasglodd grwpiau gwrth-ffasgaidd i brotestio yn erbyn yr orymdaith, ac fe fu’n rhaid i’r heddlu eu cadw nhw ar wahân.

Fe gyfeiriodd rhai o siaradwyr yr EDL at yr ymosodiadau diweddar yn Llundain a Manceinion, gydag un ohonyn nhw’n rhybuddio mai “fi fydd yr hunan-fomiwr gwyn cyntaf yn Lloegr” pe bai’r ymosodiadau’n parhau.

Dywedodd yr heddlu ddydd Gwener fod camau diogelwch ychwanegol mewn grym ar gyfer y penwythnos o ganlyniad i’r orymdaith.

Roedd hawl gan yr EDL i orymdeithio am 90 munud rhwng 1 o’r gloch a 2.30pm, tra bod y brotest wrth-ffasgaidd yn cael digwydd rhwng 12.30pm a 3 o’r gloch.