Salman Abedi (Llun: Heddlu Greater Manchester)
Mae tad y dyn sy’n cael ei amau o achosi’r ymosodiad brawychol ym Manceinion nos Lun yr wythnos hon, yn gwadu fod gan ei fab gysylltiadau â gwrthryfelwyr ISIS.

Mae Ramadan Abedi yn dweud iddo siarad â’i fab 22 oed, Salman, bum niwrnod yn ôl, pan oedd yn paratoi ar gyfer ymweliad â Sawdi Arabia. Bryd hynny, meddai, roedd yn swnio’n “normal”.

Mae Ramadan Abedi wedi cadarnhau i’w fab ymweld â Libya rhyw chwech wythnos yn ôl, ac mae ei fab arall, Abedi Abedi, wedi siarad â’r wasg o Tripoli, prifddinas Libya, gan ddweud nad yw’r teulu’n credu mewn lladd pobol ddiniwed.

Fe gafodd trydydd brawd, Ismail, ei arestio gan yr heddlu fore Mawrth.

Fe ddihangodd y tad, Ramadan Abedi, o Libya yn 1993, gan ddod i wledydd Prydain i chwilio am loches rhag cyfundrefn lem Muammar Gaddafi.