Dylan Iorwerth yn diolch am esboniad am helyntion S4C

O’r diwedd ryden ni wedi cael rhywfaint o esboniad am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn S4C yn ystod y misoedd diwetha’. Y piti mawr oedd na chawson ni wybod lawer ynghynt.

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol Cymreig y bore yma, fe fydd yr Is Gadeirydd newydd a’r Prif Weithredwr dros dro wedi gwneud llawer i dawelu pryderon pobol yn y tymor byr.

Mi wnaethon nhw ddangos hefyd fod yna nod clir o ran yr hyn sydd ei eisiau ar S4C – arian heb linynnau, yr hawl i weithredu heb orfod gofyn caniatâd gan y BBC a digon o gyfrifoldeb i allu cyflawni eu dyletswydd i bobol Cymru.

Y broblem ydi mai Is Gadeirydd ydi un – ac y bydd Cadeirydd newydd cyn hir – ac mai Prif Weithredwr tros dro ydi’r llall. Mi allai gwaith da’r bore gael ei ddadwneud eto.

Esboniad

Ar wahân i ambell ennyd anghyfforddus wrth fynd tros helyntion y cyfnod diweddara’ ac ambell fwlch gwybodaeth, roedd Rheon Tomos ac Arwel Ellis Owen yn gadarn ac yn swnio fel petai ganddyn nhw gyfeiriad i’w gwaith.

Yr elfen allweddol oedd eu bod wedi rhoi esboniad am ymadawiad y cyn Brif Weithredwr, Iona Jones, ac, wrth wneud, fe ddaeth hi’n amlwg pa mor allweddol oedd y digwyddiadau hynny.

Am y tro cyntaf, fe gawson ni wybod yn bendant mai achos o ddiswyddo oedd hwn – tan hyn, doedd hynny hyd yn oed ddim wedi’i gydnabod ac roedd y gyfrinachedd ynddi’i hun wedi cynyddu’r pwysau ar S4C.

O geisio delio gyda’r gwrthdaro o gwmpas hynny y cododd llawer o’r trafferthion eraill a’r methiant i esbonio’r egwyddorion oedd yn y fantol yn gwneud i’r cyfan swnio’n rhyfedd ac amheus.

Hyd yn oed os nad oedd neb yn gallu trafod union amgylchiadau’r diswyddo, roedd angen trafod yr egwyddorion.

Y ddadl

Mae’n amlwg bellach fod gwrthdaro rhwng mwyafrif yr Awdurdod ac uchel swyddogion S4C ynglŷn â’r berthynas rhyngddyn nhw a faint o wybodaeth y dylai’r Awdurdod ei chael i allu craffu ar waith y sianel.

Adeg y diswyddo, yr unig ddatganiad oedd bod y drefn o ‘arwahanrwydd’ yn dod i ben – dim esboniad, dim trafodaeth ar yr egwyddorion y tu cefn i hynny.

O ganlyniad, roedd anwybodaeth yn creu amheuon, amheuon yn creu pwysau a rhagor o gamgymeriadau. O glymu hynny gyda thensiynau personol ac ymyrraeth yr Adran Ddiwylliant yn Llundain, roedd popeth yn ei le ar gyfer sioe siafins.

Diolch byth, maen nhw hefyd bellach wedi rhoi’r gorau i’r syniad gwallgo o gael arolwg barnwrol. Beth bynnag am y sefyllfa gyfreithiol, yn wleidyddol roedd hwnnw’n nonsens.

Y dyfodol

Fydd hi ddim yn hawdd i Rheon Tomos a’r Awdurdod wrth iddyn nhw fynd i mewn i’w trafodaethau gyda’r BBC heddiw – gydag annibyniaeth S4C yn y fantol – ac mi fydd trafferthion y misoedd diwetha’ yn eu gwanhau.

Yr hyn sy’n glir bellach ydi bod yna esboniad tros y digwyddiadau. Mae yna gwestiynau anodd i’w hateb o hyd am y manylion a rôl gwahanol bobol ar wahanol adegau. Ond o leia’ mae pethau’n dechrau gwneud sens.

Felly, un o’r gwersi pwysica’ i’w dysgu o flerwch y misoedd diwetha’ ydi’r angen i fod yn agored – y rheidrwydd i esbonio’n rhesymol wrth y bobol sy’n cefnogi’r sianel ac yn talu amdani.