Ieuan Wyn Jones
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn dweud ei fod yn “edrych ymlaen” at y cyfarfod i ddewis ymgeisydd y blaid ar gyfer etholiad cyffredinol brys Mehefin 8.

Mewn neges fer, ddwyieithog ar wefan gymdeithasol Facebook ganol prynhawn Mercher, dydi Ieuan Wyn Jones ddim yn mentro dweud dim mwy na hynny – ond mae ei neges wedi ennyn ymatebion yn dymuno pob lwc iddo, ac yn addo’n gellweirus i roi benthyg car.

Fe ddaeth cadarnhad ddydd Llun yr wythnos hon, fod cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad Ynys Môn yn bwriadu taflu ei het i’r cylch i gael ei ystyried yn ymgeisydd ar ran Plaid Cymru.

Mae disgwyl cyhoeddiad ynglyn â chanlyniad yr hystings, sydd i’w cynnal yn Llangefni, toc wedi 9yh heno.