Elan Closs Stephens (llun: golwg360)
Mae ffigur amlwg ym myd darlledu yng Nghymru wedi cael ei hail-benodi yn aelod o awdurdod S4C ar ôl i’w swyddogaeth wreiddiol ar y bwrdd ddod i ben.

Roedd Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi i’r awdurdod yn 2012 yn aelod dros Gymru ar Ymddiriedolaeth y BBC, sefydliad a gafodd ei ddiddymu ddechrau’r mis.

Mae’r Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Karen Bradley, wedi ei phenodi i barhau’n aelod o Awdurdod S4C tan Hydref 31 y flwyddyn nesaf, pan fyddai ei thymor gwreiddiol wedi dod i ben.

Yn wreddiol o Ddyffryn Nantlle, Elan Closs Stephens yw Athro Emeritws y Diwydiannau Cyfathrebu a Chreadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi dal llu o swyddi cyhoeddus yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am benodiadau i awdurod S4C, ac mae’r aelodau’n derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £9,650 y flwyddyn am eu gwasanaeth.