Wrth i arweinydd Llafur ddod i Gymru i ymgyrchu heddiw, mae un o’i gefnogwyr pennaf yma wedi dweud bod ganddo “uffern o fynydd i’w ddringo” yn yr etholiad cyffredinol.

Ond yn ôl Meic Birtwistle, gall arweinydd y Blaid Lafur wrthsefyll yr holl bwysau sydd arno ar hyn o bryd.

Mae’r cynhyrchydd teledu, a ail-ymunodd â Llafur i gefnogi Jeremy Corbyn, wedi dweud wrth golwg360 bod y cyfryngau i gyd yn erbyn y blaid ond bod llygedyn o obaith y gallai Llafur lwyddo.

Roedd Meic Birtwistle, sy’n byw ger Aberystwyth, wedi gadael y blaid ar ôl 33 o flynyddoedd o achos y shifft tuag at y dde cyn i Jeremy Corbyn gymryd yr awenau.

“Mae’n uffern o job ar y funud achos mae’r cyfryngau wedi ysgrifennu’r sgript yn barod. Maen nhw wedi penderfynu be’ sy’n mynd i ddigwydd ac mae hynny’n dod mas yn y cwestiynau sy’n cael eu gofyn,” meddai Meic Birtwistle.

“Ry’n ni yn y Blaid Lafur wedi hen arfer gyda’r syniad bod yna garfan fawr o’r cyfryngau a’r sefydliad yn ein difrïo ni yn y Blaid Lafur, mae’n amlwg ein bod ni’n mynd i wynebu hyn eto hyd yn oed yn fwy.

“Mae’n rhaid i’r Blaid Lafur lwyddo neu fel arall mae’r dyfodol sy’n mynd i wynebu ni fel gwlad yn un erchyll. Mae’n hen bryd cael plaid sy’n dweud ei bod o blaid y bobol gyffredin yn hytrach na’r busnesau mawr.

“Mae yna uffern o fynydd i’w ddringo a hynny cyn bod chi’n dechrau sôn am fanciau a busnesau mawr.

“Mae o’n uffern o job i droi meddyliau pobol rownd ond cofiwch, roedd pobol yn dweud bod ddim gobaith caneri gan Jeremy i gael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, ac fe wnaeth e hynny ddwywaith.

“Gwelais i fe yn ystod y ddwy ymgyrch i ddod yn arweinydd y Blaid Lafur ac roedd ‘na bwysau aruthrol ar y dyn – ond roedd e’n gallu cymryd e,” ychwanegodd.

“Mae e’n foi mor addfwyn, dw i ddim yn credu bod pobol yn sylweddoli hynny. Mae’n foi sydd mor gefnogol i bobol, sydd eisiau clywed eu problemau nhw a siarad â nhw.

“Mae’n gallu gwrthsefyll y math yma o bwysau. Mae e’n anhygoel i ddweud y gwir, yn enwedig o ystyried bod e ddim eisiau’r job yn y lle cyntaf.

“Fi wastad wedi meddwl bod e’n well mewn arweinydd cael rhywun oedd ddim eisiau’r job yn y lle cyntaf ond yn teimlo bod rhaid iddo fe wneud e yn hytrach na rhywun sydd â gormod o uchelgais.

“Mae e eisiau gwneud newidiadau i’n gwlad ni, mae e eisiau gwneud newidiadau difrifol i’n cymdeithas ni. Dyna beth sy’n ei yrru fe a’i alluogi fe i wynebu hyn i gyd.”