Wrth iddo ddod i Gymru yn hwyrach y prynhawn yma mae Jeremy Corbyn wedi dweud bod plant “fel sardîns” mewn dosbarthiadau “anferthol”.

Mae disgwyl i Arweinydd Llafur ymgyrchu yng Nghaerdydd heddiw a record y  Torïaid ym maes addysg sydd dan y lach.

Yn ôl dadansoddiad Llafur o ystadegau Adran Addysg Llywodraeth Prydain, mae 40,000 o blant cynradd Lloegr yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau gyda 36 neu fwy o blant yn 2016.

Roedd 16,655 yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau gyda 40 neu fwy o blant.

Yn 2016 roedd 109 o ysgolion cynradd gyda 800 neu fwy o blant, o gymharu gydag 16 o ysgolion pan ddaeth y Ceidwadwyr i rym yn 2010.

“Mae saith mlynedd o addewidion gwag a methiannau Torïaidd wedi creu llanast yn ein hysgolion,” meddai Jeremy Corbyn.

“Mae cannoedd o filoedd o’n plant yn talu’r pris, wedi eu gwasgu fel sardîns yn yr ystafell ddosbarth.”

Ond mae’r Ceidwadwyr wedi taro yn ôl drwy ddweud bod record Llafur o ran rheoli addysg yng Nghymru yn wael.

“Mae nifer y plant bach mewn dosbarthiadau mawr [yng Nghymru] wedi cynyddu 18% mewn tair blynedd,” meddai llefarydd y Blaid Geidwadol.

£10 yr awr

Yn ogystal â thrafod addysg, mae Jeremy Corbyn wedi addo gwahardd cytundebau dim-oriau a chynyddu’r isafswm cyflog i £10.