Cyngor Gwynedd ydi’r diweddara’ i wahardd papur newydd The Sun, a hynny trwy ei gwneud hi’n amhosib i ddefnyddwyr cyfrifiaduron yn llyfrgelloedd y sir gael mynediad i’r wefan, www.thesun.co.uk.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd, mae’r meddalwedd y maen nhw’n ei ddefnyddio yn rhwystro mynediad at ddeunydd “o natur ymosodol, sarhaus, treisgar neu rywiol”.

Mae The Sun wedi bod dan y lach yn ddiweddar, gyda chlwb pel-droed Everton yn gwahardd newyddiadurwyr y papur yn cael eu rhwystro rhag mynd i Barc Goodison wedi sylwadau’r cyn-olygydd am un o’r chwaraewyr.

Yn ei golofn, roedd Kelvin MacKenzie wedi cymharu’r chwaraewr Ross Barkley, sydd â theulu’n hanu o Nigeria, â gorila. Mae’r papur wedi ymddiheuro wedi hynny, gan fynnu nad oedden nhw’n ymwybodol o gefndir ethnig Ross Barkley.

“Defnydd diogel yn bwysig”

“Mae sicrhau defnydd diogel ac addas o’r rhyngrwyd yn eithriadol bwysig i Gyngor Gwynedd ac mae’n hanfodol rhoi ystyriaeth briodol i’r ystod eang o ddefnyddwyr y gwasanaethau, sydd yn cynnwys plant ac oedolion bregus,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth golwg360.

“I’r perwyl yma, mae’r Cyngor yn defnyddio technoleg gydnabyddedig sy’n cael ei darparu gan gwmni arbenigol i rwystro mynediad i ddelweddau a gwefannau anaddas o gyfrifiaduron mewn adeiladau’r Cyngor, gan gynnwys llyfrgelloedd cyhoeddus.

“Esiamplau o ddeunydd y mae’r meddalwedd hidlo yn ei atal yw delweddau neu gynnwys o natur ymosodol, sarhaus, treisgar neu rywiol,” ychwanegodd y llefarydd.