Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Deuddydd cyn i Brif Weinidog Prydain danio Erthygl 50, mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw arni i ystyried “buddiannau economaidd pob rhan o’r ynysoedd hyn.”

Mae Leanne Wood wedi rhybuddio Theresa May fod yn rhaid iddi ystyried camau i ddiogelu holl genhedloedd y Deyrnas Unedig wrth ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae hyn yn golygu mynd am Brexit sydd yn gwneud darpariaeth nid yn unig am filltir sgwâr y Ddinas yn Llundain, ond sy’n diogelu swyddi a masnach yn holl genhedloedd a rhanbarthau’r Deyrnas Gyfunol,” meddai Leanne Wood.

‘Swyddi a masnachu’

Dywedodd Leanne Wood fod aros yn rhan o’r farchnad sengl yn bwysig i Gymru o ran masnachu a diogelu swyddi.

“Mae twf mewn cyflogau eisoes yn arafu a chyda chwyddiant yn codi i 2.3% y mis yma – ei lefel uchaf ers 2013 – nid oes ar bobl yng Nghymru angen ansicrwydd am swyddi ar ben cyflogau sy’n aros lle maent a chynnydd yng nghostau byw,” meddai.

“Ni ddylai’r Prif Weinidog wthio am fargen fydd yn tanio’r anghydraddoldeb hwn a hybu gwasgu mwy ar safonau byw gweithwyr cyffredin,” ychwanegodd.

Mae Theresa May ar ymweliad â’r Alban heddiw i drafod â Nicola Sturgeon cyn i Senedd yr Alban gynnal plediais yfory ynglŷn â chynnal ail refferendwm ar annibyniaeth.