Carwyn Jones (llun teledu senedd)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio’r Blaid Lafur y bydd hi’n colli tir yn etholiadau’r cynghorau lleol eleni.

Mae Carwyn Jones yn rhoi’r bai am hynny am eu llwyddiant y tro diwetha’ pan lwyddon nhw i ennill 10 o’r 22 gyngor sir a bod yn rhan o reolaeth dau arall.

Roedd yn ysgrifennu ym mhapur newydd ar-lein The Huffington Post, cyn i Lafur Cymru gwrdd yn Llandudno dros y penwythnos am eu cynhadledd wanwyn.

“Dim ond wythnosau sydd tan yr etholiadau cyngor a thra’n bod ni’n gwneud ein gorau i sicrhau cymaint o bleidleisiau ag y gallwn, r’yn ni’n gwybod y bydd yn anodd ailadrodd ein canlyniadau gwych yn 2012,” meddai.

Dim sôn am Brexit

Yn yr erthygl, mae’r Prif Weinidog yn dweud dweud nad yw pobol Cymru braidd byth yn codi pwnc Brexit gyda fe.

Mae pobol yn poeni mwy am faterion fel trafnidiaeth leol, sicrwydd gwaith o ansawdd a mynediad at brentisiaethau, meddai.

“Dyw Brexit braidd byth yn cael ei grybwyll. Trafnidiaeth leol sy’n codi. Mae’r awydd am sicrwydd gwaith o ansawdd a mynediad at brentisiaethau yn codi ymhob man.

“Ond y neges glir sydd y tu ôl i bron pob cwestiwn yw bod pobol yn chwilio am Fargen Deg i Gymru, a dyna’r union beth ry’n ni am ddelifro i bob cymuned dros y pedair blynedd nesa’.”

‘Siarad gwag’

Mae ei sylwadau wedi cael eu beirniadu gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, sy’n dweud nad yw ei weithredoedd yn cyd-fynd â’i geiriau.

“Mae pobol ledled Cymru am weld Llywodraeth Cymru yn trafod ac yn delifro ar faterion sydd o bwys iddyn nhw – a pheidio â defnyddio Brexit fel esgus dros fethu â gwella swyddi, cyflog ôl-dreth a’n system addysg,” meddai.