Prifysgol Caergrawnt (Llun Golwg360)
Mae pwyllgor o aelodau seneddol o Gymru wedi dechrau ymchwiliad i holi pam fod cyn lleied o fyfyrwyr o Gymru yn cael lle ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn cynnal sesiwn dydd Llun, gan holi cyfarwyddwyr mynediadau’r ddwy brifysgol.

  • Yn 2012, er enghraifft, o’r holl geisiadau o Gymru am le yn Rhydychen, dim ond 17% oedd yn llwyddiannus o gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig o 23%.
  • Yng Nghaergrawnt, 22% oedd y ffigwr llwyddiant ceisiadau o Gymru, o gymharu â 27% ar gyfer gwledydd Prydain i gyd.

Mae’r arolygon diweddaraf yn dangos bod llai o Gymry yn ceisio am le mewn prifysgol yn gyffredinol, o gymharu â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

“Cymru wedi perfformio’n wan”

Sefydlodd Llywodraeth Cymru rwydwaith ‘Seren’ yn 2013 i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n cael lle yng ngholegau Oxbridge a bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn ystyried llwyddiant y cynllun hwn.

“Yn hanesyddol, mae Cymru wedi perfformio’n wan wrth i fyfyrwyr geisio derbyn lle i astudio ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, David TC Davies.

“Mae mentrau fel Rhwydwaith Seren yn ymddangos yn gamau positif ond a ydyn nhw’n effeithiol? Oes rhagor y gall y prifysgolion a myfyrwyr ei wneud er mwyn ceisio sicrhau fod y goreuon o Gymru yn derbyn lle yn y sefydliadau clodfawr yma?”