Mae mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth wedi apelio ar arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad i gefnogi cynnal refferendwm aml-opsiwn ar statws cyfansoddiadol Cymru, gan gynnwys annibyniaeth, os yw’r Alban neu Ogledd Iwerddon yn cynnayn sgil Brexit.

Mae’n dilyn cyhoeddiad Nicola Sturgeon wythnos ddiwethaf ei bod yn bwriadu cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban rhwng hydref 2018 a gwanwyn 2019.

Mae’r mudiad Yes Cymru yn dadlau bod rhaid i bobl Cymru benderfynu pa fath o berthynas maen nhw am gael gyda Lloegr, os yw Iwerddon yn penderfynu cynnal pleidlais ar uno’r ynys neu’r Alban yn cynnal pleidlais ar annibyniaeth.

Mewn llythyr at arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad, mae Sandra Clubb, llefarydd ar ran Yes Cymru yn dadlau bod Cymru wedi cyrraedd “cyfnod tyngedfennol yn ei hanes.”

‘Rhaid i ni gael refferendwm’

Meddai: “Yn sgil datblygiadau yn yr Alban ac Iwerddon, mae cwestiwn hanfodol bwysig yn ein hwynebu: ydyn ni eisiau bod yn rhan o wladwriaeth ‘Lloegr a Chymru’ neu ydyn ni eisiau gweld Cymru fel gwlad annibynnol?

“Hawl pobl Cymru yw penderfynu ar y materion hyn, a hynny mewn refferendwm. Os yw Gogledd Iwerddon neu’r Alban yn cynnal pleidlais ar adael y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i ni gael dweud ein dweud: mae’n rhy bwysig i’w adael i wleidyddion yn unig.

“Mae’r materion hyn yn effeithio cymaint ar ein cyfansoddiad a’n perthynas gyda’n cymdogion yn yr ynysoedd hyn a’r tu hwnt. Mae’n rhaid i ni gael refferendwm, ac, yn wir, mae’n anochel.”

Ychwanegodd Sandra Clubb: Mae’n rhaid i’r pleidiau gwleidyddol adael i bobl Cymru benderfynu ar dynged ein cenedl.. Rhaid i benderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Mae gyda ni’r hawl i fod yn genedl annibynnol a does dim dwyfol hawl gan San Steffan i deyrnasu drosom.”

‘Gryfach gyda’n gilydd’ – Carwyn Jones

Ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud bod y Prif Weinidog, Carwyn Jones “yn glir bod y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig yn gryfach gyda’n gilydd nag ar wahân.”