(Llun: PA)
Fe fydd cyn-Brif Weinidog Prydain, Gordon Brown yn galw am “drydydd opsiwn” o gynnig rhagor o bwerau i’r Alban mewn ymgais i osgoi refferendwm annibyniaeth newydd.

Mewn araith yng ngŵyl y Festival of Ideas yn Kirkcaldy yn Fife, fe fydd yr Albanwr yn galw am ddull ffederal o lywodraethu gwledydd Prydain er mwyn atal blynyddoedd o “raniadau chwerw”.

Mae e eisoes wedi addo ymgyrchu gydag arweinydd Llafur yr Alban, Kezia Dugdale i sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol y Bobol i adolygu’r ffordd y caiff grym ei ddosbarthu yng ngwledydd a rhanbarthau Prydain.

Cynigion

Roedd Gordon Brown yn allweddol yn refferendwm annibyniaeth 2014, pan gynigiodd ragor o bwerau i’r Alban yn gyfnewid am aros yn rhan o wledydd Prydain.

Ac mae e disgwyl iddo fe gynnig rhywbeth tebyg y tro hwn wrth i’r Alban baratoi am fywyd ar ôl Brexit, yn groes i ddymuniad y rhan fwyaf o Albanwyr.

Mae ei gynigion yn cynnwys yr hawl i osod cyfraddau TAW, llofnodi cytundebau rhyngwladol a grym tros amaeth, pysgodfeydd, yr amgylchedd, swyddi ac ynni.

Fe fydd e hefyd yn galw am drosglwyddo £800 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd i ddwylo’r Alban, ac yn cynnig bod Banc Lloegr yn cael ei ail-enwi’n Fanc Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, gan greu swyddi yn yr Alban.

‘Trydydd opsiwn’

Yn ei araith, mae disgwyl i Gordon Brown ddweud: “Mae’r trydydd opsiwn, ffordd wladgarol Albanaidd sy’n rhydd o absoliwtiaeth yr SNP a diffyg gweithredu’r Torïaid, yn awr yn hanfodol oherwydd mae realaeth ôl-Brexit yn gwneud y status quo yn ddiangen ac yn galw ar i ni dorri’n rhydd o’r gorffennol.

“Mae’r ffordd wladgarol yn golygu nad yw’r Alban yn cael ei dal rhwng ceidwadaeth gadarn sy’n amddifadu Llywodraeth yr Alban o’r pwerau sydd eu hangen arni, a chenedlaetholdeb galed sy’n taflu ymaith yr adnoddau ry’n ni’n eu sicrhau drwy fod yn rhan o’r Undeb.

“Ni ddylai eithafiaeth Dorïaidd a chenedlaetholgar ein hamddifadu ni o drydydd opsiwn all roi rhagor o bwerau i bobol yr Alban, cynnig atebion gonest ynghylch sut y gallwn ni dalu am wasanaethau cyhoeddus ac, o wynebu’r bygythiad ôl-Brexit i’n swyddi a’n diwydiannau, mynd i’r afael â sut y gallwn ni greu swyddi newydd drwy allforio a masnachu’n llwyddiannus ag Ewrop a gweddill y byd.

“Yn bennaf oll, gall trydydd opsiwn uno’n gwlad a rhoi terfyn ar y gwrthdaro Ie v Na chwerw sy’n achosi rhaniadau ac a fydd yn parhau i’n rhwygo ni.

“Mae’n bryd mynd heibio’r rhaniadau chwerw ac eithafiaeth ceidwadaeth anhyblyg, chwyrn sy’n rhyfela â chenedlaetholdeb di-wyro a mwy caled fyth.”