Gerald Kaufman (Llun: Youtube)
Mae Jeremy Corbyn wedi talu teyrnged i’r Aelod Seneddol Syr Gerald Kaufman, sydd wedi marw’n 86 oed.

Yr AS Llafur dros etholaeth Manceinion Gorton fu’n gwasanaethu hiraf.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur bod  Syr Gerald Kaufman yn ffigwr “eiconig” a oedd yn “caru bywyd a gwleidyddiaeth.”

Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw nos Sul ar ôl salwch hir.