Theresa May a Donald Trump yn rhannu llwyfan (Llun: PA)
Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson wedi dweud y dylai Prif Weinidog Prydain, Theresa May fanteisio ar ei “pherthynas arbennig” ag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump er mwyn gwarchod buddiannau’r cyfryngau yng ngwledydd Prydain yn wyneb y gwaharddiad o’r Tŷ Gwyn.

Daeth sylwadau Tom Watson ar ôl i’r BBC, y Guardian a’r Daily Mail gael eu gwahardd rhag mynd i gynadleddau’r wasg yn y Tŷ Gwyn – gwaharddiad sy’n “syfrdanol”, yn ôl Tom Watson.

Dywedodd wrth raglen Peston on Sunday ar ITV: “Os ydych chi’n dechrau ymosod ar ryddid y wasg fel y mae’r dyn mwyaf pwerus yn y byd yn ei wneud, yna rydyn ni mewn trwbwl.

“Mae’n amlwg fod Theresa May wedi magu perthynas agos iawn â Donald Trump.

“Dw i’n credu bod angen iddi gael y Daily Mail, y Guardian a’r BBC yn ôl yn ystafell newyddion Arlywydd yr Unol Daleithiau oherwydd dyna’r unig ffordd y gall democratiaeth ddwyn pobol bwerus i gyfri.”

Daeth y gwaharddiad ar ôl i Donald Trump alw rhai cwmnïau’n “elyn y bobol”.

Ymhlith y sefydliadau eraill sydd wedi’u gwahardd mae CNN, Buzzfeed a’r New York Times.