Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi dweud na fydd yn “cilio, rhedeg i ffwrdd nac yn rhoi’r gorau iddi” yn dilyn canlyniad siomedig i’w blaid yn is-etholiad Copeland.

Ddydd Iau, cipiodd y Ceidwadwyr fuddugoliaeth annisgwyl – y tro cyntaf ers 1982 i’r blaid sydd mewn grym ennill is-etholiad.

Wrth ymateb i’r golled yn erbyn y Ceidwadwyr yn Swydd Cumbria, mae Jeremy Corbyn mynnu y “daeth hi’n amser” ar gyfer polisïau asgell chwith.

Fe fydd e’n dweud wrth gynhadledd Plaid Lafur yr Alban yn Perth fod y canlyniad yn dangos y “dasg anodd sydd gyda ni i berswadio pobol ynghylch ein neges”.

Polisïau

Yn ei araith, fe fydd e’n dweud bod y Blaid Lafur “wedi ymroi i ddatrys yr economi” ac i “herio argyfwng tan-ariannu’r Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol”.

Byddai ymgais arall i ennill annibyniaeth i’r Alban, yn ôl Jeremy Corbyn, yn amharu ar yr ymdrechion i fynd i’r afael â diffyg cydraddoldeb yng ngwledydd Prydain.

Fe fydd e’n dweud: “Mae hi’n bryd cyflwyno’r polisïau a’r syniadau rydyn ni’n eu hamlinellu.

“Ond er mwyn ennill y frwydr honno, rhaid i ni aros yn unedig. Yn unedig yn ein cred yn ein mudiad. Yn unedig yn ein hymrwymiad i wneud ein cymdeithas yn decach, yn well ac yn fwy cyfiawn unwaith eto.”

Er bod y canlyniad yn Stoke yn well i’r Blaid Lafur, “alla i ddim dweud celwydd a dweud bod y canlyniad yn Copeland yr hyn roedden ni ei eisiau”, yn ôl Jeremy Corbyn.

“Ond nid dyma’r amser i gilio, rhedeg i ffwrdd na rhoi’r gorau iddi.”