David Miliband (llun o wefan wikipedia)
Mae’r Blaid Lafur mewn mwy o lanast nag y bu ers dros 50 mlynedd, yn ôl y cyn-ysgrifennydd tramor David Miliband.

Dywed fod y symudiad i’r chwith o dan Jeremy Corbyn wedi bod yn gamgymeriad ac nad yw’r blaid yn cynnig unrhyw atebion i’r problemau sy’n wynebu Prydain.

Daw ei sylwadau wrth i Jeremy Corbyn wynebu beirniadaeth o sawl cyfeiriad ar ôl colli sedd Copeland yn Cumbria i’r Torïaid mewn is-etholiad ddydd Iau.

“Rhaid i Lafur ddeall o ddifrif natur hanesyddol yr her sy’n ei hwynebu,” meddai David Miliband, a gafodd ei drechu gan ei frawd Ed yn y ras am arweinyddiaeth y blaid yn 2010.

“Mae’n bryder mawr i mi fod Llafur ymhellach o fod mewn grym nag mewn unrhyw adeg arall yn fy mywyd.

“Mae strategaeth Llafur yn gamgymeriad oherwydd na fydd yn mynd i’r afael â heriau’r wlad.

“Nid cwestiwn o fod yn etholadwy yn unig yw hyn, mae’n fater o sylwedd. Dw i’n meddwl y gall rhywun gyflawni newid mwy radical a sylweddol trwy set wahanol o bolisïau.”

Dywedodd hefyd y byddai wedi ymuno â’r 52 AS Llafur a wrthododd ufuddhau i Jeremy Corbyn i bleidleisio dros Erthygl 50 pe bai’n dal yn y senedd.