Alun Wyn Jones (Chris Jobling CCA 2.0)
Rhaid i Gymru fod yn barod am yr annisgwyl wrth geisio 10fed buddugoliaeth yn olynol yn erbyn yr Alban heddiw, yn ôl y capten Alun Wyn Jones.

Mae Cymru’n cyrraedd Murrayfield gan ddal i obeithio am deitl pencampwriaeth y gwlad er gwaethaf y siom o golli i Loegr bythefnos yn ôl.

Colli a wnaeth yr Alban hefyd bryd hynny yn erbyn Ffrainc, ond anfantais fwy iddyn nhw heddiw efallai ydi eu bod yn gorfod chwarae heb dri o’u chwaraewyr oherwydd anafiadau – Greig Laidlaw y capten, y rhif wyth Josh Strauss a’r asgellwch Sean Maitland.

Gyda George North yn ei ôl wedi ei anaf, y Cymry sy’n cael eu cyfrif fel y ffefrynnau heddiw.

Gêm agos

Dywed Alun Wyn Jones eu bod yn barod am gêm agos.

“Dw i’n ffodus iawn o fod wedi chwarae yn y gemau hynny pan wnaethon ni guro’r Alban,” meddai.

“Ond mae hwn yn dîm gwahanol o’r Alban i’r un rydyn ni wedi ei weld o’r blaen. Rydyn ni’n canolbwyntio ar y garfan sydd gennym, a’r hyn mae angen inni ei wneud.

“Dydych chi ond cystal â’ch gêm nesaf, nid eich gêm ddiwethaf, ac fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar hynny.

“Rydyn ni wedi gweld parodrwydd yr Alban i ddefnyddio’r bêl, ac fe fyddwn ni ar ein gwyliadwriaeth ac yn disgwyl yr annisgwyl.”

Fe wnaeth Cymru gwblhau eu paratoadau ar gyfer y gêm gyda sesiwn ymarfer i’r cicwyr ym Murrayfield bnawn ddoe.

‘Rhaid ennill heddiw’

Mae’r gêm heddiw am fod yn holl bwysig, yn ôl yr hyfforddwr sgiliau Neil Jenkins.

“Mae trydydd gêm y twrnament bob amser yn gêm fawr – gall eich cadw i fynd am Gamp Lawn neu eich cael yn ôl i’r gystadleuaeth am y bencampwriaeth – felly i’r ddwy ochr mae’n anferth, ac mae angen buddugoliaeth ar y ddwy ochr,” meddai.

“Mae’n rhaid inni ennill heddiw, a dweud y gwir, os ydyn ni am gael unrhyw siawns o ennill y bencampwriaeth. Mae’n mynd i fod yn reit agos, ond gobeithio y bydd pethau’n mynd ein ffordd ni.

“Roedd perfformiad yr Alban yn erbyn Iwerddon yn nodedig, ac roedd yn agos iawn yn Paris wedyn yn erbyn Ffrainc. Mae hi bob amser yn gêm galed i fyny yma.”