Tywysog Cymru
Mae Tywysog Charles yn ymweld â nifer o elusennau yn y de heddiw.

Bydd yn ymweld ag elusen Size of Wales yng Nghwmbrân ac yn agor prif swyddfa Alcumus yng Nghaerdydd.

Mae Size of Wales yn ceisio diogelu coedwigoedd glaw sydd ddwywaith maint Cymru, tra bod Alcumus yn cynnig asesiadau risg i gwmnïoedd.

Wrth deithio i orllewin y wlad bydd Tywysog Cymru yn cwrdd ag aelodau cymuned Eglwys Mihangel Sant yn Llanymddyfri ac yn dysgu am ymgyrch cadwraeth Gwartheg Gwyn Dinefwr yn Llandeilo.

Bu Duges Caergrawnt yn ymweld â Thorfaen a Chaerffili echdoe fel rhan o’i rhôl newydd yn noddwr brenhinol elusennau plant.