Mae bom car wedi cael ei ffrwydro ger bwyty yn Somalia, gan ladd 20 o bobol ac anafu 50.

Ffrwydrodd y bom pan oedd yr ardal ar ei phrysuraf yn ystod oriau brig marchnad a nifer o fusnesau cyfagos.

Cafodd nifer o fusnesau eu dinistrio.

Hwn yw’r ymosodiad cyntaf ers i arlywydd newydd Somalia, Mohamed Abdullahi Mohamed gael ei ethol ar Chwefror 8, ac mae e wedi beirniadu’r sawl oedd yn gyfrifol.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb eto, ond mae lle i gredu mai ymosodiad gan al-Shabab oedd hwn.

Ychydig oriau cyn yr ymosodiad, roedd al-Shabab wedi beirniadu’r arlywydd newydd.