Mae bachgen dwy oed wedi marw ar ôl cael ei dynnu allan o afon ger ei gartref yn Sir Perth yn yr Alban.

Aeth y bachgen ar goll o’i gartref am oddeutu 11.15 y bore ma.

Fe fu’r gwasanaethau brys yn chwilio amdano, ac fe ddaethon nhw o hyd iddo am 12.35pm.

Cafodd e driniaeth ond fe fu farw yn y fan a’r lle.