Dim rhyfedd bod Leighton Andrews yn edrych mor bles â’i hunan bore ma. Doedd e ddim yn gallu ateb y cwestiwn oedd pawb eisiau’r ateb iddo fe yn y briffing, sef beth yw ateb Llywodraeth y Cynulliad i’r broblem ffioedd dysgu? Roedd rhaid i ni aros nes prynhawn ma a chyhoeddiad yn y Siambr am yr ateb hwnnw. Ac am ateb.

Lasfyfyrwyr 2012/2013, cysgwch yn dawel. Os ydych chi eisiau mynd i unrhyw brifysgol, unrhyw le ym Mhrydain y flwyddyn honno, ewch yn llawen oblegid bydd Llywodraeth y Cynulliad yn talu’ch ffioedd dysgu ychwanegol chi. Caiff prifysgolion godi hyd at £9,000 mewn ffioedd arnoch chi, ond y Llywodraeth fydd yn talu’r gost allan o grant dysgu HEFCW -Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fe fydd rhaid i chi dalu’r £3,290 mae myfyrwyr heddiw’n talu eisoes, bydd. Ond wele, fydd dim disgwyl i chi ad-dalu’ch benthyciad myfyrwyr hyd nes i chi ddechrau ennill £21,000 neu fwy -union yr un pryd â’r myfyrwyr truain yna o Loegr, ond yn wahanol i chi bydd rhaid iddyn nhw ad-dalu’r £6-9,000 cyfan.

Mae HEFCW yn colli rhyw £130 miliwn o’r grant dysgu, cic egr bydden i’n dychmygu ond mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd y myfyrwyr bach truain yna o Loegr eto yn helpu gyda llenwi’r gwagle fydd yn cael ei adael yn y grant.

Y myfyrwyr bach truain o Loegr. Dychmygwch gymaint maen nhw’n dymuno bod yn Gymry heddiw. Petaen nhw wedi’u geni ar yr ochr orllewinol o Glawdd Offa, fe fydden nhw’n cael eu holl feddyginiaeth am ddim, wedi cael llaeth am ddim yn yr ysgol, brecwast am ddim hefyd, heb sôn am fynychu’r ganolfan hamdden leol i nofio am ddim. Nid yn unig dydyn nhw ddim yn cael yr holl bethau yma heb dalu’r un geiniog, mae disgwyl iddyn nhw dalu am freintiau’r Cymry mewn addysg uwch. Dyma’r ffordd Gymreig yn ôl Leighton Andrews.