Dylan Iorwerth yn gofyn am ddatganiad clir gan gyfarfod o Awdurdod y sianel yn ddiweddarach heddiw …

Heddiw ydi cyfle ola’ Awdurdod S4C i adfer ychydig o drefn a hunan-barch.

A nhwthau’n cyfarfod heno am bump o’r gloch, mae angen datganiad clir o undod ac o gyfeiriad pendant.

Fydd hi ddim yn hawdd ar ôl digwyddiadau rhyfedd y dyddiau diwethaf – a’r tri mis cyn hynny hefyd – ond, er lles y sianel a ninnau i gyd, mae’n rhaid dod i ryw fath o setliad.

Dyma’r sefyllfa ar hyn o bryd:

Mae John Walter Jones yn dweud ei fod yn aros yn Gadeirydd tan ddiwedd mis Mawrth, os na fydd yr Ysgrifennydd Diwylliant yn Llundain, Jeremy Hunt, yn dweud fel arall.

Roedd gweddill aelodau’r Awdurdod yn meddwl ei fod wedi ymddiswyddo ac wedi penodi Is-gadeirydd newydd. Ar hyn o bryd – fore Mawrth – mae gwefan S4C yn dangos y ddwy stori … yr ymddiswyddiad a’r gwadu.

Yn ôl gweddill aelodau’r Awdurdod, does dim anghytundeb rhyngddyn nhw â’i gilydd, dim ond rhyngddyn nhw a’r Cadeirydd.

A beth sydd yn y fantol? Gallu’r sianel i ddadlau ei chornel wrth i Jeremy Hunt ei gorfodi i fynd i bartneriaeth gyda’r BBC gan dderbyn y rhan fwya’ o’i harian trwyddi hi ac arian y drwydded.

Beth sydd ei angen:

Does gan Awdurdod a Chadeirydd sy’n ffraeo ddim gobaith o ddylanwadu ar ddim. Felly, mae angen cytundeb a datganiad clir yn dweud beth ydi nod yr Awdurdod a sut y maen nhw’n bwriadu gweithredu.

Os nac ydi John Walter Jones yn gallu cytuno gyda’r gweddill, a’r rheiny’n unfrydol, mae sens yn dweud bod rhaid iddo fynd. Cadeirydd ydi o nid unben.

Petai hynny’n digwydd, mi fyddai angen i weddill aelodau’r Awdurdod gyhoeddi’r un math o ddatganiad – beth ydi’r nod a beth ydi eu hagwedd at y trafodaethau gyda’r BBC.

Beth ydi’r nod:

Mae’n ymddangos yn annhebygol iawn y bydd Jeremy Hunt yn newid ei benderfyniad sylfaenol. Roedd ei ateb i lythyr y pedwar arweinydd gwleidyddol yng Nghymru’n awgrymu hynny.

Ond tybed a oes modd newid y trefniant a sicrhau’r ddau beth mwya’ hanfodol – annibyniaeth S4C o ran gweithredu a chreu rhaglenni?

A dyna’r cwestiwn mawr – sut y mae’r Awdurdod yn bwriadu sicrhau hyn? Rhaid cael yr ateb heno.