Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg
Mae Gweinidog y Gymraeg yn dweud y byddai’n hoffi gweld targedau pum mlynedd yn cael eu sefydlu wrth gyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mewn cyfarfod o Bwyllgor y Gymraeg y Cynulliad, dywedodd Alun Davies y byddai targedau pum mlynedd a thargedau deng mlynedd yn “rhesymol”.

Roedd yn cydnabod nad oedd cael un targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn ddigonol i sicrhau bod e fel Gweinidog yn atebol.

“Mi fydd yna dargedau, mi fydd yna gynlluniau gweithredu, mi fydd amcanion a bydd y strategaeth yn cynnwys yr union fath o fframwaith,” meddai Alun Davies.

“Mae rhaid bod yna dargedau, mae’n rhaid bod ni’n agored am hynny ac mae’n rhaid i ni, wrth gyhoeddi’r strategaeth, cyhoeddi hefyd y ffyrdd o greu atebolrwydd yn yr hyn ry’n ni’n gwneud.

“Mae’n rhaid bod ni’n sicrhau bod ddim dim ond targedau ond bod amserlenni hefyd i bobol allu deall ein nod ni ac wedyn bod pobol yn gallu sicrhau atebolrwydd y Llywodraeth a’r Gweinidog.

“Dw i’n credu bod targedau pum mlynedd yn ddigon rhesymol, 10 mlynedd yn ddigon rhesymol.”

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth ar gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y Gwanwyn.

O dan y strategaeth, gallai fod targedau penodol am sut i gyrraedd y nod hefyd, yn ôl y Gweinidog, gyda thargedau’n cael eu gosod am nifer yr athrawon sy’n dysgu drwy’r Gymraeg a nifer y bobol sy’n gallu darparu gwasanaethau lleol drwy’r Gymraeg.

Defnyddio’r cyfrifiad i ddiffinio siaradwr

Ychwanegodd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r cyfrifiad swyddogol wrth ddiffinio pwy sy’n siaradwr Cymraeg, er nad yw’n hoffi’r syniad o roi pobol i mewn i flychau penodol.

“Fel Cymry Cymraeg, rydyn ni’n gwastraffu lot o amser yn becso am wahanol bethau. Dw i erioed wedi clywed sgwrs am sut ti’n diffinio rhywun sy’n siarad Saesneg ond ry’n ni’n treulio hanner ein bywyd yn trafod sut ry’ch chi’n diffinio rhywun sy’n siarad Cymraeg.

“Dw i ddim eisiau bod mewn sefyllfa lle dw i’n pwyntio ar un person – yn Gymro [neu’n] Gymro di-Gymraeg. Dw i ddim eisiau byw mewn cymuned a chenedl sy’n gwneud hynny. Dw i eisiau pobol i deimlo’n gyfforddus yn y Gymraeg, bod hi’n bont a ddim yn wal.”

Eisiau codi uchelgais

Wrth esbonio’r weledigaeth ar sefydlu’r nod o filiwn o siaradwyr, dywedodd Alun Davies, “Ry’n ni wedi cael polisi iaith ers rhai blynyddoedd sy’n ceisio hybu’r Gymraeg ond ydyn ni wir wedi llwyddo yw’r cwestiwn.

“Mae beth ro’n ni eisiau gwneud yn gwbl wahanol i hynny, ro’n i eisiau codi ein huchelgais ni, codi’n gweledigaeth ni a newid y ffordd ry’n ni’n gweithio fel llywodraeth ac fel gwlad ac mae hynny’n meddwl bod rhaid i ni newid cyd-destun y drafodaeth.”