Mae diweithdra wedi disgyn i’w lefel isaf ers dros ddegawd – ond mae nifer y bobol sydd mewn gwaith hefyd wedi disgyn.

Yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS), yn ystod y tri mis yn arwain at Dachwedd 2016, fe gwympodd nifer y bobol ddi-waith o 52,000, nes cyrraedd ei swm isaf ers 2006.

Fe gwympodd hefyd nifer y bobol mewn gwaith, a hynny o 9,000. Ond mae canran y bobol sy’n gweithio yn 74.5%, y gyfradd uchaf i gael ei chofnodi.

Mae nifer y bobol sy’n cael eu hystyried yn segur yn economaidd – y grwp sy’n cynnwys myfyrwyr, pobol sy’n gofalu am eu teuluoedd, pobol sydd ar absenoldeb salwch hir dymor – wedi codi i 8.9 miliwn.

Hanesyddol o uchel

“Er bod y nifer o bobol sydd wedi eu cyflogi heb newid mae’r gyfradd yn parhau i fod yn hanesyddol o uchel,” meddai Uwch Ystadegwr yr ONS, David Freeman.

“Mae dros 23 miliwn o bobol yn gweithio llawn amser, 209,000 yn fwy na blwyddyn yn ôl, tra bod gweithwyr cyflogedig wedi codi 86,000 i 8.5 miliwn.”