Mae Alun Ffred wedi dod i ben ei dennyn gyda’r Mesur Iaith ac wedi dod allan i ddweud ar goedd ei fod wedi ei frifo gan yr ensyniadau nad yw e’n gwneud ei orau dros y Gymraeg gyda’r mesur. Dyna’r rheswm dros wneud cyfweliadau fel hyn brynhawn ddoe. Mae e nawr wedi ymateb i’r 80 ysgrifennodd lythyr agored ato yn Golwg yn galw am “statws di-amwys” i’r iaith Gymraeg. Wrth ryddhau’r llythyr i’r wasg mae hefyd wedi atodi trawsysgrif o Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol y Cynulliad lle mae Daniel Greenberg, cyfreithiwr sy’n arbenigwr ar ddrafftio wedi disgrifio’r cymal statws i’r iaith yn y mesur fel “superb” o ran eglurdeb a bod y ffordd o roi statws ac yna egluro beth mae hynny’n meddwl yn ffordd “briliant” o fod yn glir.

Dyma lythyr Alun Ffred yn llawn [rhybudd iechyd -mae’n hir]:

Diolch am y llythyr a dderbyniais gennych chi a llawer o bobl eraill ynghylch Mesur arfaethedig y Gymraeg (Cymru).

Rwy’n wirioneddol ddiolchgar ichi am eich diddordeb yn y mater hwn a gallaf eich sicrhau fy mod wedi rhoi ystyriaeth hir a gofalus i’r pwyntiau yr ydych yn eu codi. Cydymdeimlaf yn llawn â chi yn eich dymuniad i wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth orau bosibl i gefnogi’r Gymraeg. Yn sicr, dyma fy amcan innau hefyd, ac rwyf wedi gwneud pob ymdrech drwy gydol y broses hon, yn wir hyd nes i’r Llywodraeth osod ei gwelliannau terfynol, i wrando ar amrywiaeth eang o safbwyntiau cyn dod i unrhyw gasgliadau. Rwyf hefyd wedi trafod y mater yn fanwl gyda Gweinidogion eraill a nifer o Aelodau’r Cynulliad.

Rwy’n gadarn o’r farn y bydd y Mesur arfaethedig, a’r strategaeth iaith Gymraeg y byddwn yn ei chyhoeddi’n fuan, yn adlewyrchu’n llawn y ffaith ein bod yn benderfynol o weld yr iaith yn ffynnu.

Bwriad y Llywodraeth yn y Mesur, yn ogystal â phenodi Comisiynydd y Gymraeg a system well ar gyfer gosod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, yw cynnwys datganiad clir bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru – a dangos yn eglur sut y rhoddir effaith gyfreithiol i’r statws hwnnw.

Wrth ddod i’r casgliad hwn, a thrwy gydol y drafodaeth a gododd yn ei sgil, rwyf wedi rhoi ystyriaeth helaeth i’r achos dros ddatganiad penagored ar statws y Gymraeg.  Fodd bynnag, rwyf wedi dod i’r casgliad bod risg wirioneddol y gallai hynny danseilio’r egwyddorion craidd y mae’r Mesur hwn yn seiliedig arnynt, sef y dylid nodi dyletswyddau a hawliau a sefydlwyd yn gyfreithiol yn glir mewn deddfwriaeth; na ddylai sefydlu a sicrhau hawl unigolyn i wasanaeth drwy’r Gymraeg fod yn gyfrifoldeb ac yn faich ar yr unigolyn hwnnw.

Nid wyf yn argyhoeddedig mai Llys ddylai fod yn bennaf gyfrifol am benderfynu ar gyflawn natur a hyd a lled dyletswyddau sy’n ymwneud â’r Gymraeg.  Yn fy marn i, mater i Lywodraeth y Cynulliad a’r Cynulliad Cenedlaethol yw penderfynu ar y dyletswyddau a gaiff eu creu mewn perthynas â’r Gymraeg a’u hyd a’u lled. Oherwydd hyn, mae’r datganiad am statws y Gymraeg sydd yn y Mesur yn dangos sut y rhoddir i’r datganiad statws effaith gyfreithiol a bod y datganiad yn rhywbeth diriaethol, real.

Ni fyddai’n glir beth fyddai effaith gyfreithiol datganiad penagored ynghylch statws.  Gallai dehongliad un person o effaith y datganiad hwnnw fod yn wahanol iawn i ddehongliad person arall.  Yr unig ffordd o ddatrys i ba raddau yr oedd datganiad yn ei gwneud yn ofynnol i berson weithredu mewn ffordd arbennig mewn perthynas â’r Gymraeg fyddai mynd â’r mater i’r Llys.   Felly, y perygl y gallem ei wynebu yw y gallai hyd a lled statws yr iaith a’i effaith o ran y gyfraith gael ei benderfynu mewn Llys.  

Byddai’n rhaid i Lys ddehongli effaith datganiad o’r fath o ran y gyfraith o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a byddai’n bosibl i Lys benderfynu bod effaith a chwmpas y datganiad yn gyfyngedig.  Mae’r iaith yn rhy bwysig i mi i adael inni wynebu risg felly.

Er enghraifft, mae cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i orfodi dyletswyddau ar bersonau i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a thrin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb yn gyfyngedig i grŵp diffiniedig o bersonau.  Hyd yn oed wedyn, ni ellir gorfodi dyletswyddau ar y personau hynny heb fod modd iddynt herio’r dyletswyddau hynny, fel y bônt yn gymwys i’r personau hynny, ar sail rhesymoldeb a chymesuredd.  Yr eithriad i’r rheol hon yw y gellir rhoi dyletswyddau i hybu a hwyluso’r Gymraeg ac i drin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail cydraddoldeb ar grŵp bach o gyrff, sef awdurdodau’r Gymraeg (er enghraifft Comisiynydd y Gymraeg a Thribiwnlys y Gymraeg) heb fod modd eu herio. 

O ganlyniad, gallai Llys ddod i’r casgliad, yn absenoldeb modd o herio mewn datganiad statws, mai dim ond ymddygiad grŵp cyfyngedig iawn o gyrff y gellid ei newid yn gyfreithiol yn sgil y datganiad statws, sef awdurdodau’r Gymraeg.

Ni ddylech chi a’ch cydlofnodwyr fod mewn unrhyw amheuaeth, felly, mai fy amcan innau, ac amcan y Mesur arfaethedig, yw cryfhau’n sylweddol sefyllfa’r iaith.  Mae hwn yn fater o bwys aruthrol i mi, fel y bu drwy gydol fy mywyd, ac rwy’n siŵr ei fod i chithau hefyd; ac rwy’n gobeithio, hyd yn oed os ydych yn anghytuno â’m dull o weithredu, ac yn ystyried bod y risg sy’n gysylltiedig â datganiad penagored ar statws yr iaith yn un sy’n werth ei chymryd, y byddwch yn gwerthfawrogi’r egwyddorion y mae fy mhenderfyniad yn seiliedig arnynt.

Fel rwyf wedi dweud, fodd bynnag, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr eich sylwadau a byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau pellach gennych ar y mater hwn.