Felly, mae’r penderfyniad i drydaneiddio’r lein o Lundain i Abertawe wedi cael ei ohirio. Eto. Posibilrwydd yw y bydd Llywodraeth San Steffan yn dod at Lywodraeth y Cynulliad yn y flwyddyn newydd a gofyn iddyn nhw gyfrannu tuag at y gost os ydyn nhw am weld trydaneiddio’r ffordd o Fryste i’r gorllewin. Beth fyddai Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddweud? Na, no wê, nefar. Mae Carwyn Jones newydd ryddhau datganiad yn dweud nad yw’r lein GWL wedi ei ddatganoli ac hyd yn oed petai e, gyda’r toriadau i gyllideb gyfalaf y Cynulliad yn cael ei dorri gan 40%, does dim ceiniog i sbario gan y Llywodraeth. Fel mae rhywun ddylai wybod yn dweud. “Gallan nhw anghofio amdano fe. Ydyn nhw wedi gofyn i Boris am gyfraniad i’r Thames Link? Dw i ddim yn credu ’ny!”