Malan Vaughan Wilkinson sy’n adolygu cyngerdd Venue Cymru ddydd Sul…

Fe ddechreuodd cyfres cyngherddau clasurol  Venue Cymru ddydd Sul gyda rhaglen gyffrous gan un o brif gerddorfeydd Awstria, Cerddorfa Mozarteum Salzburg dan arweiniad Ivor Bolton a’r pianydd rhyngwladol, Freddy Kempf.

Roedd yna hefyd gyfweliad gyda’r pianydd cyn y perfformiad. Roedd o’n gyfle gwych i ddysgu mwy am Kempf – un o bianyddion amlycaf Ewrop heddiw. Ac er mor ddifyr y sesiwn a’i sylwadau, gresyn oedd gweld cyn lleied yno – criw o thua 50 yn un o ystafelloedd darlith theatr Venue Cymru – a llawer llai o Gymry ymhlith y criw hwnnw.

Dewis a dalodd

Roedd Symffoni rhif 2 opus 61  gan Robert Schumann yn C fwyaf yn ddewis dewr i ddechrau’r rhaglen – ond yn ddewis a dalodd ar ei ganfed. Mae Schumann yn un o gyfansoddwyr mawr y 19eg ganrif ac mae’r symffoni hon yn un o’m hoff ddarnau gan y cyfansoddwr – er nad yw’n ffefryn traddodiadol. Fe gafodd y symffoni ei hysgrifennu gan Schumann pan oedd yn isel ei ysbryd. Mae’n ddarn sy’n tynnu ar amrywiaeth helaeth o emosiynau tywyll ac yn darlunio anrhefn feddyliol Schumann yn ystod y cyfnod iddo’i hysgrifennu.

O’r bar cyntaf – roedd perfformiad y gerddorfa yn un gafaelgar a’u harddull perfformio yn ddwys, egnïol a sionc yng nghymalau ysgafnach y darn. Doedd dim byd statig am ymarweddiad y gerddorfa  ar y llwyfan. Nid sefyll fel delwau  llonydd, diserch yn perfformio darn yr oeddent wedi’i ddysgu eisoes oeddent (fel y gwelwch mewn ambell gerddorfa!). Ond, roedd pwyslais amlwg yma ar weithio gyda’i gilydd a chyd-symud.

Mae symudiad cyntaf y symffoni – Sostenuto Assai – allegro ma non troppo yn dechrau’n ddwys ei naws ac roedd ing y cyfansoddwr i’w glywed yn glir yng nghymalau cyfoethog y gerddorfa. Cafwyd dechrau tywyll i’r chorale pres araf yn y dechreuad cyn i’r symudiad cyntaf ddatblygu’n Sonata-Allegro aflonydd. Rwy’n teimlo fod y gerddorfa hon ar ei gorau wrth chwarae cymalau egnïol a bywiog fel y cafwyd yn y symudiad cyntaf a’r ail symudiad Scherzo Allegro Vivace sy’n fwy chwareus ei naws.

Ond i mi, fe ddaeth y brif  her nid ym mwrlwm yr Allegro ond yng ngwrthbwynt symudiad tri – Adagio Espressivo yn C leiaf.  Un o’r sialensiau mwyaf yma yw cynnal y cymalau galarus. Fe lwyddodd y llinynnau, oboau a chlarinetau wneud i hyn ymddangos yn gwbl rwydd. Camp yn wir! Dyma ddarn a hoeliodd sylw’r gynulleidfa ac a ddangosodd Schumann yn ei holl ddyfnder.

Aeddfed a gostyngedig

Yn ail ac yn ganolbwynt annisgwyl i’r gyngerdd  oedd Concerto Piano Rhif 23 yn A fwyaf K488 (1786) gan Wolfgang Amadeus Mozart gyda Kempf yn unawdydd piano.

Fe chwaraeodd Freddy Kempf y darn hwn am y tro cyntaf  pan yn ddim ond yn naw oed – ac mae wedi parhau i’w berfformio i gynulleidfaoedd ledled y byd dros y ddau ddegawd diwethaf . Mae’r concerto hwn yn un o ddarnau mwyaf poblogaidd Mozart  – felly mae gofyn peth dychymyg i wneud cyfiawnder ag o, gan fod cymaint o ddehongliadau tebyg eisoes yn bodoli sy’n efelychiadau gwael o waith pianyddion enwog y gorffennol.

Roedd dehongliad Kempf o’r gwaith yn aeddfed  a’i ymarweddiad yn ostyngedig. Roedd yn meddu  ar arddull berfformio Ewropeaidd; arddull y daeth yn gyfarwydd â hi yn yr Almaen – lle mae’n  cadw perthynas glos ag arweinydd yr ensemble wrth ddehongli’r gerddoriaeth. Yn hytrach na phennu ei ddehongliad ei hun gan adael i’r gerddorfa chwarae ar wahân yn y cefndir. Fe wnaeth y berthynas glos hon rhwng Kempf a’r arweinydd o Loegr sicrhau perfformiad ffres a digymell, llawn cyffro o hen ffefryn. Roedd yr amrywiaeth yn nhôn ei chwarae yn drawiadol ac ar brydiau roedd nodau  uchaf y piano’n meddalu’n unsain gyda gweddill y gerddorfa.

Ar y gorau, mae cerddoriaeth piano  Mozart yn noeth ac agored yn erbyn sain cerddorfa – ond fe ddefnyddiodd kempf y noethni hwn i’w fantais gan roi perfformiad sensitif o glasur. Braint o’r mwyaf oedd cael mwynhau’r dehongliad arbennig hwn gan Freddy Kempf a’r ensemble o Salzburg – lle ganwyd Mozart ei hun.

I gloi’r cyngerdd – cafwyd Symffoni rhif 41 gan Mozart neu’r Jupiter fel y caiff ei hadnabod. Dyma ddarn ysblennydd sy’n dangos y cyfansoddwr a’i allu ar ei orau – er na lwyddodd y perfformiad heno i fy nghyffroi gymaint â’r concerto blaenorol. Er hyn, roedd gallu  Bolton i weu’r  themâu cymhleth tua’r diwedd yn gelfydd a’r coda ffiwgaidd nodedig yn dod â’r gwaith i uchafbwynt cadarn.

‘Cawr’

Fe ddywedodd Kempf yn y sesiwn holi ar ddechrau’r noson mai un o’i brif ddylanwadau ar y piano oedd y cawr o bianydd virtuoso Rwsiaidd, Vladimir Horowitz.

Ond, nid adlais o ddehongliad Horowitz  o Goncerto piano rhif 23 gan Mozart oedd yn llenwi theatr Llandudno nos Sul – ond mwynder teimladwy dehonglwr anturus sy’n prysur dorri ei gŵys ei hun.

Does dim yn sicrach yn fy meddwl – bydd  Kempf, fel Horowitz  – rhyw ddydd – yn siŵr o ddatblygu’n gawr ei hun.