Sarah Olney - 'dim Brexit caled' (Yui Mok CCA 2.0)
Mewn sioc wleidyddol arall eleni, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio sedd Richmond yn yr isetholiad ddoe.

Sarah Olney fydd yn cynrychioli pobol Richmond, yn ne-orllewin Llundain, a hynny fisoedd ar ôl iddi ymuno â’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe lwyddodd i droi mywafrif anferth y Ceidwadwyr o 23,015 yn fwyafrif iddi hi o 1,872 wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol droi’r isetholiad yn refferendwm lleol ar Brexit.

Roedd y Ceidwadwr, Zac Goldsmith, wedi achosi’r isetholiad trwy  ymddiswyddo o’r sedd a’r Blaid Geidwadol mewn protest yn erbyn ehangu maes awyr Heathrow.

Canolbwyntio ar Brexit

Roedd Zac Goldsmith, a gollodd y ras yn erbyn Sadiq Khan i fod yn Faer Llundain yn gynt eleni, yn sefyll yn Annibynnol ac roedd wedi gobeithio y byddai’r bleidlais yn troi ar y datblygiad yn Heathrow.

Ond roedd hefyd yn Frexitiwr amlwg ac fe ganolbwyntiodd y Democratiaid Rhyddfrydol ar hynny.

Yr unig blaid arall yn y ras oedd Llafur – daeth ei hymgeisydd, Christian Wolmar, ymhell ar ôl gyda 1,515 o bleidleisiau.

‘Dim Brexit caled’

Yn ôl Sarah Olney, bydd y canlyniad yn rhoi cic i’r Llywodraeth yn Downing Street ac yn agor y ffordd i Senedd San Steffan “ddiystyru” pleidlais refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Zac Goldsmith wedi ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd, tra bod y rhan fwyaf o’i etholwyr –  dros 70% – wedi pleidleisio i aros.

“Mae pobol Parc Richmond a Gogledd Kingston wedi rhoi cic i’r llywodraeth Brexit Geidwadol, ac mae ein neges yn glir: dydyn ni ddim am gael Brexit caled,” meddai Sarah Olney yn ei haraith fuddugol.

“Dydyn ni ddim am gael ein tynnu allan o’r farchnad sengl, a fyddwn ni ddim yn gadael i anoddefgarwch, rhaniadau ac ofn ennill.”