Mae Tony Blair wedi annog y rhai wnaeth bleidleisio i aros yn rhan Undeb Ewropeaidd i berswadio cefnogwyr Brexit y byddai dyfodol gwledydd Prydain yn llawer gwell fel rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y cyn brif weinidog y dylai ewyllys y bobol gael ei barchu, ond mynnodd y byddai’r rhai bleidleisiodd dros Brexit hefyd “yn agored i ddadl well yng ngoleuni’r ffeithiau wrth iddynt ddod i’r amlwg”.

Mewn erthygl ym mhapur newydd The New European, mae’n dadlau y aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd barhau i fod yn opsiwn yn wyneb realiti “trychinebus” Brexit.

Proffwydoliaeth

Tynnodd sylw at y gostyngiad sydyn yn ngwerth y bunt fel “proffwydoliaeth negyddol am ein dyfodol economaidd” a dywedodd bod y ffordd oedd y gytundeb fasnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Chanada wedi cael ei rwystro gan y senedd ranbarthol Walloon yng ngwlad Belg yn dystiolaeth na fydd Brexit yn debyg i’r hyn oedd llawer o bleidleiswyr tros adael wedi’i ddychmygu.

Ychwanegodd bod gwleidyddion wnaeth gefnogi Brexit erbyn hyn yn cydnabod bod gadael yn golygu rhyddhau Brydain o’i fodel “cymdeithasol democrataidd” gan gynnwys cynnig y gwasanaeth iechyd am ddim.

“Rydan ni’n byw mewn byd sy’n newid yn gyflym,” meddai Tony Blair. “Mae anfantais i hynny. Ond mae hefyd mantais. Gall pethau sy’n edrych eu bod wedi datrys yn bendant fod yn agored i benderfyniad newydd.

“Yn fwy na dim arhoswch yn gadarn. Rydym yn bobl sofran. Gallwn benderfynu; a gallwn newid ein meddwl.”