Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu “argyfwng cyfansoddiadol go iawn” os nad yw’r holl genhedloedd yn cytuno ar agwedd Llywodraeth Prydain tuag at Brexit.

Dyna ganfyddiad adroddiad gan Sefydliad i’r Llywodraeth (IfG) wrth i arweinwyr y gwledydd datganoledig gwrdd â Theresa May heddiw i drafod telerau’r Deyrnas Unedig wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r adroddiad yn cydnabod fod anawsterau yn wynebu Carwyn Jones, Nicola Sturgeon ac Arlene Foster wrth geisio dod i gytundeb â strategaeth Theresa May.

Ond mae’n rhybuddio y bydd “chwalfa go iawn mewn cysylltiadau” os nad oes modd iddynt ddod i unrhyw fath o gytundeb.

‘Strategaeth anystyriol’

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu y byddai’r tair llywodraeth ddatganoledig “bron yn sicr” o fod eisiau pleidlais cyn rhoi sêl bendith ai peidio ar delerau Brexit.

Ac er bod Senedd y Deyrnas Unedig yn sofran ac felly yn ôl y gyfraith yn medru anwybyddu barn Llywodraeth Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban byddai hyn yn “strategaeth anystyriol i lywodraeth sy’n ymrwymedig i’r Undeb am y byddai’n tanseilio’n ddifrifol y berthynas rhwng y pedair llywodraeth ac yn cynyddu’r siawns o annibyniaeth i’r Alban ac yn creu rhwygiadau yn nhrefniadau bregus rhannu pwerau Gogledd Iwerddon,” meddai’r adroddiad.

Am hynny, mae’r adroddiad yn awgrymu sefydlu pwyllgor newydd o Weinidogion o bob llywodraeth i drafod Brexit ac i gynnal cyfarfodydd misol ar y strategaeth orau.