Llygredd yn China (Vmenkov CCA 3.0)
Fe allai cyfarfod o weinidogion yr Undeb Ewropeaidd heddiw arwain at weithredu’r cytundeb newid hinsawdd mwya’ uchelgeisiol eto.

Os bydd yr Undeb yn cytuno i arwyddo Cytundeb Paris, fe fydd hynny’n ddigon i sicrhau bod y fargen yn cael ei gweithredu cyn diwedd y flwyddyn.

Fe fyddai hynny’n golygu anelu at darged o fyd heb lygredd nwyon tŷ gwydr erbyn diwedd y ganrif.

Croesi’r trothwy

Mae angen i 55 gwlad arwyddo Cytundeb Paris er mwyn iddo ddod i rym, ac mae hynny eisoes wedi digwydd, gyda 61 yn ei gefnogi.

Ond mae angen hefyd i’r gwledydd sy’n arwyddo fod yn gyfrifol am 55% o holl lygredd nwyon tŷ gwydr y byd – y cyfanswm ar hyn o bryd yw 48%.

Pe bai gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn cytuno ar y cyd, fe fyddai hynny’n golygu croesi’r trothwy.

Gwledydd unigol hefyd

Fe fydd gwledydd unigol hefyd yn penderfynu i gefnogi’r cytundeb neu beidio, gyda disgwyl y bydd Llywodraeth Prydain yn gwneud hynny cyn diwedd 2016.

Mae India, sy’n gyfrifol am 4% o holl nwyon tŷ gwydr y byd, hefyd yn arwyddo’n fuan ac  mae’r ddau lygrwr mwya’, China a’r Unol Daleithiau, eisoes wedi gwneud.