Jeff Smith
Mae un o’r ymgyrchwyr a fu’n flaenllaw dros ddiogelu dyfodol Neuadd breswyl Pantycelyn wedi datgelu heddiw ei fod yn ymgeisio am swydd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Mae Jeff Smith, 27 oed, yn fyfyriwr doethuriaeth mewn Ffiseg yn y coleg ger y lli, a bu’n ymgyrchydd amlwg yn ystod y protestiadau i gadw Neuadd Pantycelyn fel neuadd breswyl Gymraeg, gan ymuno â’r protestiadau wrth feddiannu to’r adeilad.

Daeth y cyfnod ymgeisio am swydd yr Is-Ganghellor i ben heddiw am 12pm.

Safon D1 yn y Gymraeg

“Dw i’n angerddol a brwdfrydig am gyfeiriad a dyfodol y Brifysgol, ac am brosiectau fel ail-agor Neuadd Pantycelyn,” meddai Jeff Smith.

“Dw i’n teimlo bod modd i mi ddod â llawer o syniadau ac egni i’r rôl, ac agor cyfnod newydd o dryloywder a gwrando.

“Dw i hefyd eisiau gweld y Brifysgol yn gwneud mwy i gyflawni ei rôl hanesyddol i ddarparu dysg, iaith a diwylliant i Gymru a’i phobol, gan roi’r Brifysgol yn gadarn fel calon Cymru.”

Dysgodd Jeff Smith Gymraeg yn rhugl ar ôl ymuno â’r Brifysgol, ac yn ôl manylion y swydd bydd yn rhaid i Bennaeth newydd Prifysgol Aberystwyth allu deall Cymraeg mewn cyfarfodydd, mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb a thros y ffôn, sef Safon D1 yn y Gymraeg.