Scrabble yn Gymraeg, Llun: Gwales.com
Mae llawer wedi ymateb yn chwyrn i stori a welwyd ar rai o wefannau newyddion gwledydd Prydain dros y penwythnos yn sôn am siop yng Nghaerfyrddin na lwyddodd i werthu’r un copi o’r gêm fwrdd Scrabble yn Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cyhoeddwyd y stori ar wefan y Guardian ddydd Sadwrn, ymhlith gwefannau eraill, ac mae’n cyfeirio  at siop Waterstones Caerfyrddin nad sydd wedi gwerthu’r un o’u pum copi o’r gêm fwrdd Gymraeg ers 2014.

Ac mae llawer wedi ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol i’r stori, gan awgrymu ei bod yn bychanu’r iaith Gymraeg.

Yn eu plith, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood sy’n ymateb drwy gyfeirio at ei blog – Welsh-speaking or Not – Why We Should All Take on the Trolls.

‘Diddordeb lleol’

Bellach, mae Golwg360 wedi cael cadarnhad mai gwasanaeth newyddion Wales News Service gyhoeddodd y stori gyntaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth eu bod wedi ei chyhoeddi am ei bod yn “stori ddifyr.”

Un arall a’i cododd oedd gohebydd y Carmarthen Journal, Robert Harries, gan ei chyhoeddi ar wefan newyddion South Wales Evening Post ddydd Gwener.

Dywed Robert Harries wrth Golwg360 iddo ei dilyn am ei bod “o ddiddordeb lleol.”

“Mae’r siop rhyw 200 llath o’n swyddfa yng Nghaerfyrddin, ac oeddwn i’n meddwl ei bod yn stori quirky ac yn berthnasol i’r ardal,” meddai.

Er hyn, roedd yn cydnabod ei bod wedi cael ymatebion chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol, a dywedodd ei fod wedi’i synnu iddi gael ei chodi gan bapurau mawr fel y Guardian.

Dywedodd hefyd fod pob un o gopïau’r gêm yn y siop yng Nghaerfyrddin bellach wedi’u gwerthu.

‘Ymateb yn wahanol iawn’

Fel un sy’n byw yn sir Gaerfyrddin, dywed Iola Wyn wrth Golwg360: “Fy nheimlad i oedd mai stori leol iawn oedd hon.

“Mae’n ddifyr sut mae ein hymateb ni fel Cymry Cymraeg yn wahanol iawn unwaith y caiff ei chodi gan bapurau mawr Llundain, a sut y mae’n gallu edrych wedyn fel ffordd i fychanu’r Gymraeg,” meddai.

“Bydden i wedi meddwl y byddai unrhyw newyddiadurwr wedi ystyried fod mwy nag un siop yn gwerthu’r gêm yng Nghaerfyrddin, a ddim rhoi sylw i un siop yn unig,” meddai wedyn.

Cafodd y gêm Scrabble yn Gymraeg ei gyhoeddi yn 2005 gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae ymatebion eraill ar Twitter yn cynnwys: