Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru (llun: Senedd TV)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi beirniadu gwleidyddion sydd wedi mynegi amheuaeth dros ddyfodol datganoli yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gan gyhuddo amheuwyr datganoli o ddangos diffyg ffydd yng Nghymru, mae hi’n dadlau bod Brexit yn cryfhau’r achos o blaid grymuso’r Cynulliad Cenedlaethol, yn hytrach na chyfiawnhau canoli grym yn Llundain.

Dros y dyddiau diwethaf, mae’r Aelodau Cynulliad Llafur Jeremy Miles a Lee Waters, ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, wedi dadlau y byddai dadrithiad y cyhoedd tuag at wleidyddion arwain at amheuon ynghylch gwerth y Cynulliad.

Dywed Leanne Wood ei bod yn gwrthod agweddau o’r fath.

“Mae gormod o bobl yn y genedl hon sydd yn barod i honni nad yw Cymru’n ddigon da, ac y byddai San Steffan yn ein llywodraethu’n well na ni,” meddai.

“Mae Brexit yn cynnig cyfle i genhedloedd gymryd mwy o rym a chyfrifoldeb gan y Deyrnas Gyfunol. Dangosodd canlyniad y refferendwm sut y mae rheolaeth San Steffan wedi gadael nifer o gymunedau ar ôl. Ni ddylai hyn gael ei ddehongli mewn unrhyw ffordd fel pleidlais i ganoli mwy o rym yn San Steffan.

“Bydd datganoli, ac felly Cymru, yn llwyddo os yw pob plaid yn dangos hyder yn ein gwlad a gallu pobl Cymru i gyflawni.

“Ni ddylai unrhyw genedl â hunan-barch ofni na bod â chywilydd o hunan-lywodraeth. Mae’n ddigalon gweld agweddau mor negyddol gan rai o blith gwleidyddiaeth Cymru. Byddai ein cenedl yn elwa pe bai pleidiau eraill yn mabwysiadu’r agwedd gadarnhaol sydd gan Blaid Cymru tuag at ein gwlad.”