(llun: PA)
Huw Prys Jones yn dadlau bod y 48% o’r boblogaeth a bleidleisiodd o blaid yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu hesgeuluso a’u hanwybyddu’n llwyr gan y pleidiau gwleidyddol

Nid lleiafrif pitw ydan ni a bleidleisiodd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddeufis yn ôl, ond bron hanner poblogaeth yr ynysoedd hyn.

Yn ein plith mae miloedd ar filoedd ohonom sydd wedi cael ein cythruddo gan gelwyddau a hiliaeth lluoedd Brexit, ac sy’n ysu am ddal ati i frwydro i’w llesteirio a’u tanseilio.

Ond bron cymaint â siom y canlyniad ei hun yw mudandod llwyr yr aelodau etholedig hynny y byddem yn disgwyl iddynt ddadlau ar ein rhan.

Hynod o wrthun yw gweld gwleidyddion honedig radical yn dweud bod angen parchu’r canlyniad.

All neb sy’n credu o ddifrif mewn tegwch a democratiaeth dderbyn dilysrwydd canlyniad a oedd mor seiliedig ar gelwydd a hiliaeth.

Methiant Corbyn

O blith y gwleidyddion sy’n ein gadael ni i lawr, prin fod neb yn haeddu mwy o’n dirmyg na Jeremy Corbyn.

Roedd llawer yn croesawu gweld tipyn o rebel fel y fo o’r meinciau cefn yn curo ceffylau blaen Llafur y llynedd. Mae’n deg dweud hefyd fod ganddo rai syniadau goleuedig, yn sicr lle bo Trident ac ynni niwclear yn y cwestiwn.

Ond ar bwnc pwysicaf y dydd, sef y berthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, fe’i cafwyd yn druenus o brin.

Pan mae’n cael cyfle i wneud safiad yn lluoedd adweithiol Brexit, mae’n dewis yn lle hynny ildio i rai o’i hen ddaliadau deinosoraidd gwrth-Ewropeaidd. Sy’n codi cwestiynau am faint o atebion gwirioneddol sydd ganddo fo a John McDonnell i’r argyfyngau sy’n ein hwynebu.

Arwydd o argyfwng lled-derfynol y Blaid Lafur ydi bod hyd yn oed Owen Smith fel petai ag agwedd fwy goleuedig at Ewrop nag sydd gan Corbyn.

Beth am Blaid Cymru?

Gyda’r Blaid Lafur yn y fath lanast, a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael eu trechu mor llwyr, beth felly am Blaid Cymru?

Mi fyddai rhywun yn meddwl bod ganddi siawns wirioneddol i lenwi gwagle wleidyddol yng Nghymru.

Gyda bron i hanner pobl Cymru wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mi fyddai yna botensial clir iddi am ehangu ei chefnogaeth petai’n mynd ati’r ffordd iawn.

Mae’r syniad o Brydain neu Loegr y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn sicr o galedu agweddau’r lleiafrif sydd dros annibyniaeth i Gymru. Ond go brin fod fawr o apêl i’r syniad o Gymru annibynnol yn Ewrop ar y funud.

Onid llawer gwell felly fyddai i Blaid Cymru ganolbwyntio’i hegnïon ar hyn o bryd ar ymgyrch syml dros gadw Cymru yn Ewrop? Does dim pwynt mewn cymhlethu’r ddadl ar hyn o bryd i geisio ymrwymiad i Gymru annibynnol yn ogystal.

Os ydi hi am gynyddu’r gefnogaeth i Gymru annibynnol maes o law, bydd yn rhaid iddi hefyd ddysgu taro’n llawer caletach yn erbyn cenedlaetholdeb Prydeinig/Seisnig.

Fydd yr ystrydebau arferol am fod yn blaid i bawb o bobl Cymru neu am bartneriaeth hapus o wledydd ym Mhrydain ddim yn mynd â hi i unlle.

Hyd yn oed os bydd yr Alban yn torri’r rhydd, fydd hynny ddim yn ddigon i drawsnewid barn heblaw ei bod wedi argyhoeddi pobl Cymru o wlad mor druenus fyddai Lloegr mewn sefyllfa o’r fath.

Yn y cyfamser, mae angen iddi wneud llawer mwy i droi pob carreg i gyfleu’r syniad mai methiant llwyr a thestun gwawd fydd y wladwriaeth Brydeinig os caiff Brexit fynd yn ei flaen.

Gwladwriaeth ranedig

Wrth gwrs, does neb yn dadlau y gellir anwybyddu canlyniad y refferendwm. Ond dydi hynny ddim yn gyfystyr â’i dderbyn yn ddigwestiwn chwaith. Ffolineb llwyr ydi dadlau bod ‘y bobl’ (cysyniad cwbl ddiystyr p’run bynnag gan nad oes y fath beth â barn dorfol mewn cyd-destun fel hyn) wedi penderfynu’n ddiamwys dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yr unig ddadansoddiad gwrthrychol y gellir ei wneud ydi bod y canlyniad yn dangos gwladwriaeth hynod ranedig, gyda’r Alban a Gogledd Iwerddon a Llundain, a mwyafrif llethol pobl ifanc ledled y deyrnas o blaid aros i mewn.

Er na ellir honni y byddai hynny’n dasg hawdd o gwbl, byddai unrhyw lywodraeth o ewyllys dda yn cydnabod y rhaniadau dwfn ac yn ceisio barn ar ffyrdd o chwilio am y mathau o atebion a allai fod mwyaf derbyniol i fwyaf o bobl.

Yn lle hynny, yr hyn sydd gynnon ni bellach ydi llywodraeth sy’n trin y canlyniad fel buddugoliaeth ddiamwys i luoedd Brexit, ac sy’n barod i rwbio trwynau’r gweddill ohonom yn y baw.

O dan amgylchiadau o’r fath, yr unig ddewis i ni sy’n credu yn y ddelfryd Ewropeaidd ydi mynd ati ym mhob dull a modd i danseilio eu hamcanion.

Gan eu bod bellach yn arddel amcanion ymgyrchwyr Brexit, mae’n rhaid dal y llywodraeth yn gyfrifol am addewidion yr ymgyrch honno, fel y £350 miliwn yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd.

Mae hefyd angen dial ar ymgyrchwyr blaenllaw fel y tri gweinidog sy’n gyfrifol am y trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd. Byddai unrhyw wrthbleidiau gwerth eu halen yn mynd ati’n systematig i’w gwawdio a’u dirmygu’n barhaus ac i ymhyfrydu ym mhob methiant o’u heiddo i gael cytundebau â gwledydd eraill Ewrop. A mynd ati’n fwriadol hefyd i ddangos i arweinwyr eraill yr Undeb Ewropeaidd nad ydi Johnson, David a Fox yn siarad ar ein rhan a’u hannog i roi amser caled iddynt.

Yn lle hynny, mae’n gwrthbleidiau’n rhoi rhwydd hynt i’r llywodraeth wneud fel y myn.

Efallai ein bod ni’r 48% ychydig yn llai mewn niferoedd ar y diwrnod, ond yn sicr mae ein barn wedi ei seilio ar werthoedd a ffynonellau anhraethol fwy goleudig a dibynadwy na’r Daily Mail a’r Sun.

Rydan ni’n haeddu llais – ond a oes ar neb o’n gwleidyddion eisiau’n cefnogaeth?