Edwina Hart
Mae cyn-Weinidog Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart wedi cael ei chyhuddo o wrthdaro buddiannau wrth iddi gymeradwyo cyllid i gwmni o Abertawe.

Yn ei swydd yn Llywodraeth Cymru, gwnaeth Hart gymeradwyo cyllid gwerth £3.4 miliwn ar gyfer cwmni Kancoat yn Waunarlwydd, aeth i’r wal yn ddiweddarach.

Penderfynodd Hart gefnogi’r cwmni er gwaethaf pryderon am eu cynllun busnes, ac mae hi’n cael ei chyhuddo o fwrw ymlaen gyda’r cynllun er mwyn creu swyddi yn ei hetholaeth – mae safle Kancoat hanner milltir y tu allan i etholaeth Gŵyr.

Ond mae Llywodraeth Cymru’n mynnu bod y cwmni wedi’i leoli y tu allan i’w hetholaeth, ac felly nad yw Hart wedi torri’r Cod Gweinidogion.

Yn ôl Swyddfa Archwilio Cymru, mae ar y cwmni £2.6 miliwn i Lywodraeth Cymru.

Cafodd 12 o swyddi eu creu yn sgil y cyllid.

Ond cafodd pryderon am y cyllid eu codi yn 2013, ac fe benderfynodd arolwg fod y cynllun busnes yn “wan ac yn anghyson”.

Aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2014.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Lle bo angen i weinidogion wneud penderfyniadau ar eu portffolio eu hunain a allai gael effaith benodol ar eu hetholaeth neu ranbarth etholiadol eu hunain, rhaid iddyn nhw ofalu rhag unrhyw fath o wrthdaro buddiannau.

“Yn yr achos hwn, doedd y cwmni dan sylw ddim o fewn etholaeth cyn-Weinidog yr Economi. Roedd ei phenderfyniad, felly, yn unol â’r Cod Gweinidogol.”