Sophie Taylor, Llun: Heddlu De Cymru
Mae teulu dynes 22 oed, fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Llun, wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Sophie Taylor, o Landaf, Caerdydd yn oriau mân fore Llun, 22 Awst ar ôl i’w char BMW du wrthdaro â bloc o fflatiau ar y gyffordd rhwng Stryd Meteor a Stryd Moira yn  Waunadda.

Dywedodd ei theulu: “Rydym wedi colli ein tywysoges hardd Sophie. Fe fydd yn aros yn ein calonnau am byth. Fe fydd colled fawr ar ei hôl.”

Mae dyn 21 oed a oedd yn teithio yn y car gyda Sophie Taylor yn parhau  mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad traffig ac yn apelio am dystion.

Mae dau ddyn, 22 a 18 oed, a dwy ddynes, 23 a 28 oed, yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad.

Apêl am dystion

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rob Cronick o Heddlu De Cymru: “Mae ein meddyliau gyda theulu Sophie yn ystod y cyfnod anodd hwn ynghyd a theulu ei ffrind sy’n ddifrifol wael. Mae’r ddau deulu yn cael cefnogaeth swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

“Mae ymchwiliad llawn yn parhau i geisio darganfod beth arweiniodd at y gwrthdrawiad angheuol tua 12.35yb ddydd Llun.

“Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a  allai fod wedi gweld tri char – BMW lliw du, BMW gwyn a Vauxhall Corsa du – a oedd yn teithio gyda’i gilydd o gwmpas Caerdydd yn hwyr nos Sul hyd at oriau man fore Llun.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth  gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 319903.