Jazz Carlin o Abertawe gyda'i dwy fedal arian (Llun: John Walton/PA
Mae athletwyr Tîm GB wedi dychwelyd o Rio de Janeiro i’r DU heddiw yn dilyn eu llwyddiant gorau mewn Gemau Olympaidd ers mwy na chanrif.

Glaniodd yr awyren Boeing 747, oedd yn cludo 320 o athletwyr a staff cynorthwyol, ym maes awyr Heathrow y bore ma.

Fe wnaeth y tîm sy’n cael eu galw’r un “mwyaf talentog” erioed gymryd lluniau ar fwrdd yr awyren BA2016 ac fe wnaeth Max Whitlock, enillodd ddwy fedal aur, roi cynnig ar rai o’i symudiadau gymnasteg ar y seddi dosbarth cyntaf.

Max Whitlock a’r pencampwr bocsio Nicola Adams oedd y ddau cyntaf i ymddangos o’r awyren gyda theulu, ffrindiau a chefnogwyr yn cymeradwyo.

Ar ôl ennill 67 o fedalau yn y Gemau yn Rio gan orffen yn ail yn y tabl, mae sôn y bydd nifer o Dîm GB yn cael eu hanrhydeddu.

Y Tîm ‘mwyaf talentog’

Mewn cynhadledd i’r wasg bu pennaeth Tîm GB Mark England yn rhoi teyrnged i’r holl athletwyr a oedd wedi teithio i Rio a disgrifiodd y derbyniad yn Heathrow fel un “llethol”.

Ychwanegodd fod gan y rheolwyr “obeithion mawr” o’r dechrau gan mai dyma’r “tîm mwyaf talentog yr ydym erioed wedi ei gymryd” i’r Gemau Olympaidd.

Cipiodd athletwyr o Gymru gyfanswm o ddeg medal yn ystod y Gemau Olympaidd, gyda phedwar ohonynt yn fedalau aur.

Ymhlith yr athletwyr o Gymru a enillodd fedalau aur mae Elinor Baker gyda’r seiclo, Hannah Mills gyda’r hwylio, Jade Jones gyda’r taekwondo ac Owain Doull gyda’r seiclo.

Doedd Jade Jones, a lwyddodd i amddiffyn y fedal aur enillodd hi yn Llundain yn 2012, ddim ar fwrdd yr awyren gan ei bod hi wedi penderfynu treulio rhagor o amser yn Rio gyda’i theulu. Ond dywedodd y nofwraig Jazz Carlin o Abertawe, a enillodd fedal arian yn y 400 dull rhydd a’r 800 metr dull rhydd ar Twitter ei bod hi “mor falch o fod wedi bod yn rhan o’r tîm hwn!!”

Rhai o sêr eraill y tîm oedd Jason Kenny a’i ddyweddi Laura Trott yn dilyn eu llwyddiant yn y felodrôm, y nofiwr  Adam Peaty, ynghyd a Mo Farah ar y trac, a Nicola Adams gyda’r bocsio.

Llwyddodd ychydig dros 35% o athletwyr Prydain a aeth i Rio i ddychwelyd gyda medal.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi cyhoeddi y bydd llwyddiant yr athletwyr yn Rio yn cael ei ddathlu gyda gorymdaith ym Manceinion a digwyddiad arall yn Llundain ym mis Hydref.