Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio ei gariad.

Mae Jordan Matthews, 23, o Gaerdydd wedi’i gyhuddo o lofruddio Xixi Bi, 24 oed, mewn eiddo yn Heol Trelái, Llandaf ar 19 Awst.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i’r tŷ yn dilyn adroddiadau bod dynes yn cael trafferthion anadlu am 8.26yb ond bu farw yn y fan a’r lle.

Wrth ymddangos yn y llys heddiw, fe siaradodd Jordan Matthews i gadarnhau ei enw yn unig.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan fis Hydref.

Mae teulu Xixi Bi, sy’n byw yn China, wedi cael eu hysbysu am ei marwolaeth ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.