Wrth i Fwrdd yr Iaith gondemnio’r Llywodraeth yn Llundain am fod yn “sarhaus” wrth ddelio gyda’r sianel Gymraeg, mae Dylan Iorwerth yn ceisio pwyso a mesur y sefyllfa ddiweddara’ …

Un dyn sydd wedi ennill yn glir yn holl saga S4C, a’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ydi hwnnw.

Mae wedi llwyddo i wneud dau beth yn effeithiol – torri gwariant ei adran a thanseilio Awdurdod S4C.

O ran ei sgôr ar lechen George Osborne, y Canghellor, mae Jeremy Hunt wedi torri llawer mwy na 24% ar S4C. Trwy drosglwyddo’r rhan fwya’ o’r cyfrifoldeb i’r BBC, mae’n cael gwared ar tua £90 miliwn y flwyddyn oddi ar lyfrau ei adran. Seren aur i Jeremy.

Mae hefyd wedi mynd tros ben, rownd a rhwng coesau Awdurdod S4C ar ôl iddyn nhw ei gythruddo sawl gwaith – tros ymddiswyddiad/sacio Iona Jones, tros  ddweud nad oedd ganddo’r hawl i dorri eu harian o gwbl ac, mae’n ymddangos, am ei fod yn eu hamau o ollwng gwybodaeth i’r cyhoedd.

Yn y cyd-destun hwnnw, mi fydd mynd am Adolygiad Barnwrol wedi ei wylltio’n waeth fyth. Efallai bod Awdurdod y Sianel yn teimlo bellach nad oes ganddyn nhw ddim i’w golli … ond mae’n anodd gweld fod llawer i’w ennill chwaith.

Os byddan nhw’n llwyddo gydag Adolygiad, mi fydd y Llywodraeth yn mynd yn eu blaenau i gyflawni’n union yr un peth mewn ffordd arall. Os collan nhw, mi fyddan nhw’n wannach nag erioed ac yn gorfod ymddiswyddo.

Beth ddigwyddodd?

Nid fod dim o hyn yn awgrymu fod penderfyniad yr Ysgrifennydd Diwylliant yn un cywir ac mae’r gwahanol ddogfennau’n dangos yn weddol glir beth ddigwyddodd. Mae dilyn beth sydd wedi’i ddweud wrth pwy fel dilyn cliwiau i ddatrys trosedd.

Mae’n dweud dau beth yn ei lythyr at y BBC nad yw’n eu dweud yn ei lythyr at S4C (gweithred ryfedd iawn gan Ysgrifennydd Gwladol, ond dyna ni). Un yw mai BBC Alba – gwasanaeth Gaeleg yr Alban – yw’r model a’r llall yw y gall y BBC dynnu’n ôl o’r trefniant a cholli £76 miliwn o’r drwydded deledu.

Felly, dyma be ddigwyddodd yn y cyfarfod rhwng yr Ysgrifennydd a Chadeirydd Ymddiriedolaeth y Bîb …

Jeremy Hunt: Ti ddim eisio talu am drwydded deledu hen gojars nacwyt? Reit, felly, mi dorra’ i £76 miliwn oddi ar bres y drwydded deledu a’u rhoi nhw i S4C.

Michael Lyons: Yr uffar bach slei. Oes gen i ddewis?

JH: Nacoes.

ML: Reit, ar un amod.

JH: Ie?

ML: Ein bod ni’n cael llais yn rhedeg y sianel.

JH: Ar bob cyfri. Sgen ti syniad sut?

ML: Wel mae yna rywbeth o’r enw BBC Alba yn y gogledd yn rhywle.

JH: Os ydio’n ddigon da iddyn nhw … Grêt!

ML: Oes angen trafod efo pobol Cymru.

JH: Pwy? Oes angen trafod efo BBC Cymru?

ML: Pwy?

A be ydi’r canlyniadau?

Nid fod hyn i gyd, o angenrheidrwydd, yn golygu fod y penderfyniad yn un drwg. Ond doedd dim paratoi ar ei gyfer a does neb yn siŵr sut y bydd yn gweithio – mae Menna Richards, pennaeth y BBC yng Nghymru wedi  dweud fod angen gwaith mawr i sefydlu trefn.

Mi ddywedodd hefyd bod y BBC wedi cytuno i “helpu” S4C. Go brin mai dyna oedd ym meddwl Michael Lyons – roedd yn ffordd o golli arian heb frifo cymaint ag ambell ddewis arall. Trwy hyn, mi fydd y BBC yn gallu cadw rhai adnoddau a fyddai wedi mynd fel arall.

Ar ôl dweud hynny, mi allai’r BBC helpu i dorri ar rai o gostau S4C trwy rannu rhai elfennau o’r gwaith. Ond y cwestiwn mawr sy’n aros ydi annibyniaeth S4C – o dan fodel Alba, mi fydd yr Awdurdod yn annibynnol, ond fydd y sianel ddim.

Mi fydd y Llywodraeth yn gwadu hynny a’r BBC hefyd, o bosib. Ond os ydi’r sianel am fod yr un mor annibynnol ag o’r blaen be ydi’r pwynt o greu trefn newydd gymhleth, anhylaw sy’n creu sgôp ar gyfer ffraeo a gwastraffu amser ar ddadlau?

Yr unig bwynt ydi … ewch yn ôl i ddechrau’r pwt yma o erthygl.